Y Degwm

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Y Degwm oedd enw'r nwyddau neu (yn ddiweddarach) yr ardreth a godwyd ar bob ffermwr, mawr a bach.

Hanes y Degwm yn fras

Pwrpas gwreiddiol y Degwm oedd helpu i gynnal yr offeiriad, yr eglwys a'r esgobaeth leol, ac roedd yn weithredol hyd yn oed yn ystod Oes y Tywysogion, a'r egwyddor (yn seiliedig ar hanes Moses a Jacob yn y Beibl) oedd i bobl roi degfed rhan o'u cynnyrch i Dduw. Gyda dylanwad y Normaniaid ar ôl 1066, daeth yr Eglwys yn fwyfwy awyddus i droi degwm ar ffurf nwyddau'n arian parod, er mwyn arbed gorfod casglu ynghyd anifeiliaid a chnydau amrywiol ac wedyn eu gwerthu - er na ddiflannodd yr arfer o gasglu cynnyrch tan yn hwyr: mae Stryd Ysgubor y Degwm yng Nghaernarfon yn ein hatgoffa o'r ysguboriau eang a godwyd i gadw cynnyrch o'r fath hyd at yr 1840au mewn llawer i le.

Roedd problemau'n parhau hyd yn oed lle 'roedd cyflwyno degfed rhan o gynnyrch wedi hen droi'n rent degwm, gan fod rhenti felly'n aml wedi eu pennu'n swm penodol heb ystyried effeithiau chwyddiant dros y blynyddoedd. Pasiwyd deddf i droi pob taliad neu nwyddau degwm yn daliad wedi'i seilio ar faint o dir oedd gan y sawl a oedd yn ffermio a phris grawn.[1]

Mae cofnod wedi goroesi o'r arian degwm a gasglwyd yn Uwchgwyrfai tua chanol y 14g. Erbyn hynny, gan fod offeiriaid Eglwys Sant Beuno, Clynnog Fawr wedi dod yn gyfrifol am freintiau eglwysi Uwchgwyrfai i gyd, roedd yr holl ddegwm (heblaw am y degwm a gesglid, mae'n debyg, ar diroedd Abaty Aberconwy yn y cwmwd) yn cael ei hel, mae'n ymddangos, ar ffurf arian. Isod ceir cyfieithiad o'i werth, ac i bwy ymysg offeiriaid Clynnog yr oedd yn daladwy. Cyfansymiau yw'r rhain; mae'n biti nad yw'r gwerth a ddeuai o bob fferm wedi ei nodi! Nodwyd y manylion fesul deoniaeth, sef yn yr achos hwn, Arfon.

Yn Uwchgwyrfai, gyda phresenoldeb sefydliad colegol Sant Beuno yng Nghlynnog Fawr, aeth y Degwm i'r sefydliad hwnnw a'i offeiriaid cydgyfranogol (portioners yn Saesneg) tan 1536. Bryd hynny, gan y bernid mai math o abaty neu eglwys golegol oedd yno, ac nid eglwys blwyf yn unig, ducpwyd llawer o'i buddiannau oddi arni, gan eu rhoi, neu eu gwerthu, i sefydliadau neu unigolion dylanwadol a ddaeth yn "rheithoriaid lleyg" ac iddyn nhw y telid y degwm yn aml wedi hynny. Eu dyletswydd hwythau oedd cyflogi ficer neu gurad i weinidogaethu lle y derbyniwyd y degwm ohono. Dichon fod hyn wedi digwydd mewn rhannau helaeth o Uwchgwyrfai.

Y Degwm yn y 14eg ganrif

Dylid nodi mai cyfieithiad bras yw'r isod. Os ydych am ei ddyfynnu mewn gwaith academaidd, byddai'n ddoeth gwirio'r cyfieithiad yn erbyn y Lladin gwreiddiol. Mae copi printiedig yn Archifdy Caernarfon.[2]

Dyma asesiad Deoniaeth Arfon gan Ddeon a rheithwyr eraill y Ddeoniaeth hon.
Cyfran Meistr Anian Ruffy yn deillio o Eglwys Clynnog Fawr	9½ marc	12s. 8c.
Cyfrannau sy’n dod i William a rhoddion hefyd	8 marc	10s. 8c.
Cyfran Caplan Mathew yn deillio o’r uchod	7½ marc	10s. 0c.
Cyfran Caplan Ioan yn deillio o’r uchod	7½ marc	10s. 0c.
Cyfran Caplan Dafydd yn deillio o’r uchod	7 marc	9s. 4c.
Eglwys Llanbeblig	8½ marc	11s. 4c.

Cyfanswm: £32  Y degwm yn deillio o hyn: 64s

Mae'r swm cyntaf yn y manylion yn cyfeirio at werth yr holl gynnyrch yn ôl prisiad neu asesiad, a'r ail, degymiad neu ddegfed ran o hynny. Roedd "marc" gyfwerth â 13s. 4c.

Fe welir o'r uchod fod dros pum deg dau swllt o'r cyfanswm o 64 swllt yn y ddeoniaeth yn mynd i gynnal Eglwys Clynnog a'i hoffeiriadon.


Mapiau Degwm Uwchgwyrfai

Diben Deddf Gymudo'r Degwm 1836 oedd gwneud i ffwrdd yn derfynol â'r drefn o gyflwyno cynnyrch i'r eglwys, gan sefydlu system o ardrethu degwm yn ei le. Beth bynnag oedd agwedd tirfeddianwyr ar y pryd tuag at y ddeddf, roedd pawb o leiaf i fod yn yr un sefyllfa parthed talu. Y broblem a arhosai oedd y gwrthwynebiad sylfaenol ymysg mwyafrif Anghydffurfwyr Cymru i gyfrannu at gynnal yr eglwysi Anglicanaidd. Un gwaddol hynod bwysig i ni heddiw, fodd bynnag, oedd y mapiau degwm yr oedd rhaid eu paratoi. Roedd y rhain yn dangos pob fferm a thyddyn a phob cae a'r rhestrau pennu a oedd yn enwi'r sawl oedd yn dal y tir, maint pob cae o ran aceri ac enwau'r caeau. Mae'r mapiau hyn a'r dogfennau pennu ar gael yn Archifdy Caernarfon a hefyd ar wefan prosiect Cynefin.[3]


Gwrthwynebiad i dalu'r Degwm

Ni fu neb erioed yn hoff o dalu trethi, ond gyda thwf Anghydffurfiaeth o ganol y 18g. ymlaen, tyfodd gwrthwynebiad cryf ymysg y rhan fwyaf o'r boblogaeth i dalu treth y Degwm nes ffrwydro yn yr 1860au yn yr hyn a elwir yn "Rhyfel y Degwm" pan wrthododd rhai anghydffurfwyr â thalu'r degwm. Canlyniad hyn oedd i'r eglwys neu'r rheithor lleyg anfon beiliaid i atafaelu eiddo hyd at swm y ddyled a oedd gan y gwrthodwr. Nid oes hanes o gynnwrf cyffredinol yn Uwchgwyrfai, ond eto, roedd y gwrthwynebu a'r atafaelu'n digwydd yr un fath. Ceir cofnod o Felin Forgan tua 1890 pan oedd beiliaid wedi galw:

"Yn y cysylltiad hwn cofiaf fynd i Felin Forgan i arwerthiant atafaelu ar rhyw gymaint o eiddo Daniel Eames am na thalai'r degwm i'r Eglwys sefydledig. Nid anallu i’w thalu oedd y rheswm am yr arwerthiant ond ei wrthwynebiad i'r ddeddf. Yr oedd Daniel Eames yn ymneilltuwr selog ac yn flaenor ym Mryn’rodyn. Yr oedd yr hyn a elwid yn rhyfel degwm yn lled boeth yng Ngogledd Cymru ar y pryd."[4]

Cyfeiriadau

  1. David Hey (gol.), The Oxford Companion to Local and Family History, (Rhydychen, 1996), t.440
  2. Registrum Vulgariter Nuncupatum "The Record of Caernarvon" ê Codice Ms. Harleiano 696. (Llundain, 1838), tt.226-7
  3. Gwefan Cynefin [1]
  4. Owen Ll. Williams, Wells, Vermont, U.D.A., Atgofion am Rhos-isaf.