Wynne Williams
Cerddor ac arweinydd bandiau o bentref Trefor oedd y diweddar [Iorwerth] Wynne Williams a fu farw 8 Mai 2025 yn 67 oed.
Magwyd ef yn ffermdy Ysgubor Wen lle bu'n byw gydol ei oes. Yn 8 oed ymunodd â Seindorf Trefor gan ddatblygu'n gyflym yn gornetydd a thrwmpedydd dawnus ac ymroddgar. Cyn bod yn 16 oed daeth yn Bencampwr Agored Unawdwyr Gogledd Cymru ac yn drwmpedydd yng ngherddorfa Cwmni Opera Pwllheli.
Nid oedd mynd i goleg yn apelio ato a dechreuodd ei yrfa waith fel Cymhorthydd Technegol yn ei hen ysgol, Ysgol Glan y môr, Pwllheli. Wrth i'w ddiddordeb mewn cerddoriaeth ehangu a datblygu ymddiddorodd yn gynyddol mewn cerddoriaeth jazz ac arweiniodd hynny at gydweithio gyda cherddorion eraill i sefydlu'r grŵp offerynnol Arian Byw, a chwaraeai alawon gwerin Cymreig mewn arddull jazz, roc a phop. Bu hefyd yn aelod o'r grŵp poblogaidd Y Ficar.
Ar wahanol gyfnodau bu'n arweinydd Band Pres Porthaethwy a Seindorf Arian Deiniolen, gyda'r ddau fand yn cael llwyddiannau dan ei arweiniad. Ganol y 1990au daeth yn athro cerdd teithiol offerynnau pres yn ysgolion cynradd Llŷn ac Eifionydd a chyda'i gyd-diwtoriaid, John Glyn Jones a Gwyn Evans, sefydlodd Fand Pres Ieuenctid Gwynedd a Môn a ddaeth yn Bencampwyr Ieuenctid Prydain deirgwaith. Roedd helpu plant a phobl ifanc ei fro i ddatblygu eu doniau cerddorol yn genhadaeth gyson iddo fel y gwelwyd pan sefydlodd Fand Chwyth Pwllheli o'r newydd, er mwyn rhoi cyfle i bawb gael profiad cerddorol.[1]
Cyfeiriadau
- ↑ Seiliwyd yr uchod ar deyrnged i Wynne gan John Glyn Jones yn Barn, Mehefin 2025, t.43.