John Glyn Jones
Cerddor ac arweinydd bandiau a fagwyd ym mhentref Trefor yw John Glyn Jones (g. 1958).
Daeth ei ddawn fel cornetydd i'r amlwg y fuan wedi iddo ymuno â Seindorf Trefor yn blentyn wyth oed. Dechreuodd ennill gwobrau mewn eisteddfodau lleol i ddechrau fel unawdydd cornet a chwaraeodd ran amlwg yn llwyddiannau'r band yn y 1970au. Daeth i amlygrwydd cynyddol fel unawdydd ac ym 1973 enillodd Fedal Gogledd Cymru fel cornetydd gorau'r gystadleuaeth o blith deg o fandiau ac ef oedd Pencampwr yr Unawd Agored yng Nghystadleuaeth Gogledd Cymru ym 1975.
O Ysgol Glan-y-môr, Pwllheli aeth i astudio'r i'r Coleg Cerdd yn Llundain gan roi ei fryd ar ddatblygu fel arweinydd yn arbennig. Wedi dychwelyd i'w fro enedigol fe'i penodwyd yn athro cerdd teithiol offerynnau pres yn Adran Addysg, Cyngor Gwynedd, swydd a ddaliodd am nifer helaeth o flynyddoedd. Gyda cherddorion eraill sefydlodd y grŵp offerynnol 'Arian Byw', a fu'n diddanu cynulleidfaoedd gyda'u gwedd newydd ac arloesol ar gerddoriaeth yn y genre hwn.
Ym 1991 fe'i penodwyd yn arweinydd Seindorf yr Oakeley ym Mlaenau Ffestiniog. Bu'n arweinydd yr Oakeley am chwarter canrif gan ennill llu o wobrau mewn cystadlaethau o bwys led led gwledydd Prydain gan sefydlu'r seindorf fel un o fandiau amlycaf Cymru. Bu hefyd yn hyfforddwr, ac yna'n arweinydd, i Fand Pres Ieuenctid Cymru a Môn.
Yn briod â Glenys o Lithfaen, mae John Glyn a'i deulu wedi ymgartrefu ym Morfa Nefyn ers blynyddoedd bellach ac yn 2023 cyhoeddodd hunangofiant gonest a difyr gyda teitl priodol iawn, Corn, Baton a Fi (Gwasg y Bwthyn), sy'n adlewyrchu teitl un o'i hoff lyfrau, sef Corn, Pistol a Chwip gan T.Llew Jones.