Uwchfoty, Trefor

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Tyddyn bychan ar lethr gogleddol Yr Eifl yn Nhrefor yw Uwchfoty, y tŷ olaf yng nghwmwd Uwchgwyrfai ac yng nghantref Arfon cyn croesi'r Eifl fawreddog i gantref Llŷn. Saif ar fin y llwybr serth a charegog sy'n arwain o bentref Trefor is-law, a thros Fwlch yr Eifl i Lithfaen a Nant Gwrtheyrn. Hwn yw'r tŷ uchaf un ar lethrau gogleddol yr Eifl. Y llefydd agosaf ato yw :

1. Cae'rfoty Bach, sydd wedi diflannu ers tua chanrif dan domennydd rwbel Chwarel yr Eifl.

2. Cae'rfoty, i'r gorllewin o Uwchfoty, ar sawdl tomen isaf Chwarel yr Eifl.

3. Tan-y-bwlch, sydd i'r dwyrain o Uwchfoty, ac yn unionsyth o dan Fwlch yr Eifl (sef yr afl fawr geir rhwng y Garn Ganol a Garnfor).

Gadawodd preswylydd olaf Uwchfoty'r lle tua 1939 ac aeth y lle'n raddol yn adfail. Bellach, 'does ond pedair wal yn aros.

Enw arall arno - ar lafar yn lleol felly - yw Tŷ Halen, yr enw'n tarddu o'r ddeunawfed ganrif (ac efallai cyn hynny) pan arferid smyglo halen bras o Iwerddon i draeth y Gorllwyn is-law a'i gludo i fyny Allt Nant Bach i'w guddio yn Nhŷ Halen. Ei gladdu mewn cawgiau pridd oedd y drefn arferol, rhag llygaid barcud y Seismyn drwgdybus a didrugaredd. Roedd halen bryd hynny'n ddrud ac yn hynod o werthfawr oherwydd ei fod mor hanfodol ym mywyd trigolion y fro. Fe'i defnyddid i halltu penwaig i bara tros fisoedd y gaeaf.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma