Tŷ'nlôn

Oddi ar Cof y Cwmwd
(Ailgyfeiriad o Tŷ’n Lôn)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Treflan fechan sy'n sefyll o bobtu hen lôn Pwllheli yw Tŷ'nlôn, ym mhlwyf Llandwrog. Erbyn hyn, y ffordd trwy Dŷ'nlôn yw un o'r ychydig olion o linell y ffordd i Bwllheli cyn adeiladu'r ffordd dyrpeg tua 1810 ar hyd tir corsiog i'r dwyrain o'r gefnen lle saif y dreflan. Eir at y dreflan heddiw trwy droi oddi ar y briffordd yng nghanol Bethesda Bach. I'r gogledd mae'r ffordd yn rhedeg ymlaen o hyd at gasgliad o dai. Yma arferai'r ffordd groesi Afon Carrog trwy fynd dros Pont Wen. Er bod talcen y bont ar un ochr yn aros, mae'r bont ei hun wedi diflannu ers llawer dydd, yn sicr cyn 1888 pan gyhoeddwyd mapiau Ordnans graddfa fawr cynharaf yr ardal (er y dangosir y bont ar fap Ordnans graddfa fach ym 1840).

Heblaw am ddwy res o dai, rhai'n unllawr, a rhyw hanner dwsin o dai ar eu pennau'u hunain, yr unig adeilad yw Capel Salem (W). Yr oedd perchnogion hen blas Mount Hazel, neu Gollfryn, yn berchen ar y tir o amgylch, fel rhan o Ystad Collfryn.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma