Tŷ Cnap
Hen fferm o oddeutu 34 erw oedd Tŷ Clap neu Tŷ Cnap - mae'r sillafiad yn amrywio gydol y 19g. Bu'n rhan o Ystad Plas-yn-Bont tan tua 1819, pan chwalwyd yr ystad honno.[1] Erbyn adeg y map degwm, tua 1840, Anne Ellis, gweddw John Ellis o Ryllech, Llannor[2] oedd y perchennog a Richard Williams oedd y tenant.[3] Ym 1851, Richard Morris, dyn 76 oed o Benmorfa a'i fab, Morris Prichard, oedd yn ffarmio Tŷ Cnap (sic); ym 1861, gŵr gweddw 44 oed, Owen Jones, oedd y tenant. Ymhen 10 mlynedd, roedd Owen Jones yn dal yno, ond wedi ail-briodi â gwraig o'r enw Sydney o Bistyll gan gychwyn teulu newydd. Ym 1871, Tŷ Clap oedd yr enw ar y cyfrifiad. Ym 1881, disgrifir Owen Jones fel saer maen, ond yr oedd yn dal i fyw yno - a Tŷ Cnap oedd y sillafiad. Erbyn 1891, roedd Owen a Sydney Jones wedi ymddeol i dŷ yn Digbeth Terrace, Bontnewydd, a John Jones, gŵr o Sir Feirionnydd, a Mary ei wraig oedd yn ffarmio "Tŷ Cnap".[4]
Gwerthwyd y fferm wedi hynny gan roi rhybudd i'r tenant olaf, John Jones, ymadael ym 1898, a bu raid iddo werthu ei stoc mewn ocsiwn.[5] Fe chwalwyd y tŷ a chodwyd plasty Fron Dinas ar y safle tua 1900 yn arddull pensaernïaeth celf a chrefft y cyfnod. [6] Erbyn 1901 roedd y tŷ newydd gyda'i enw newydd, Fron Dinas, ar ei draed, ond yr unig rai i fyw yno oedd John Symonds, y garddwr (dyn o Oakham, Swydd Rutland), ei wraig Winifred, a oedd yn wreiddiol o Faentwrog, a'u plant.[7] Erbyn 1911, roedd John wedi marw, fodd bynnag, ac roedd y teulu'n byw yn Stryd Marcus, Caernarfon, lle roedd y plant yn gweithio mewn siopau a Mrs Symonds yn cadw ymwelwyr.[8]
Erbyn 1908 roedd yr Henadur David Pierce Williams yn byw yn Fron Dinas (neu Vrondinas fel y sillafodd y penteulu yr enw), gŵr o'r Waunfawr a oedd yn fasnachwr llechi, cadeirydd Pwyllgor Addysg y sir ac ynad heddwch 66 oed, a gollodd ei wraig y flwyddyn ganlynol. Erbyn cyfrifiad 1911 dim ond ef a dwy forwyn oedd yn byw yno. Gan mai newydd gyrraedd Fron Dinas gan symud yno o Gorffwysfa, Caernarfon, oedd y teulu tua'r adeg honno, rhaid casglu mai tenantiaid oeddynt, os na chawsant gyfle i brynu'r tŷ. Roedd y tŷ, mae'n debyg, wedi eu denu gan fod gwraig David Pierce Williams yn chwaer i R.B. Ellis Y.H., a drigai y drws nesaf ym mhlasty bach Bronant (a elwid ar un adeg yn Pen-y-clip). Yn ôl coffâd yn y wasg i Mrs Williams yn dilyn ei marwolaeth ym 1909, roedd y ddau'n gefnogwyr mawr i Ysgol y Bontnewydd a Mrs. Williams yn cymryd diddordeb hefyd yng Nghartref Bontnewydd. Roedd y teulu'n aelodau yn y capel lleol, Capel Glan-rhyd (MC), Llanwnda.[9] Bu farw D.P. Williams yn 72 oed ym 1915, gan adael eiddo gwerth dros £27,000.[10]
Bu'r tŷ'n wersyll carcharorion rhyfel ar ôl 1943, lle'r arhosai milwyr Almaenig ac Eidalaidd a weithiai ar ffermydd yn yr ardal wedi i'r rhyfel ddod i ben. Wedi hynny, defnyddiwyd yr adeilad fel clwb gwledig, sef Clwb Fron Dinas.
Prynwyd yr adeilad wedi i'r clwb gau gan Bryn Terfel fel cartref iddo ef ei hun a'i deulu, ac fe chwalwyd olion y cytiau lle bu'r carcharorion yn byw, ailwampio'r tŷ gwreiddiol a chodi adeilad cerdd ar wahân. Addaswyd yr adeilad yn gartref moethus iawn.[11] Adferwyd fersiwn ar enw gwreiddiol yr eiddo hefyd, sef Tŷ Cnap. Dichon bod y perchnogion newydd yn barnu bod Tŷ Clap yn enw rhy amrwd![12]
Cyfeiriadau
- ↑ W. Gilbert Williams, ‘’Hen Deuluoedd Llanwnda. II. Lewisiaid Plas-yn-Bont’’, Trafodion Cym. Hanes Sir Gaernarfon, cyf. 5 (1944), t.41
- ↑ Am hanes y teulu, gweler erthygl ar Cefn Hendre yn Cof y Cwmwd
- ↑ Map Degwm plwyf Llanwnda. "Tŷ Clap" oedd y sillafiad ar y map
- ↑ Cyfrifiadau plwyf Llanwnda 1851-1891
- ↑ 'North Wales Express, 7.10.1898, t.4
- ↑ Gwefan Coflein, [1], cyrchwyd 4.12.2025; mapiau Ordnans 1888 a 1900
- ↑ Cyfrifiad plwyf Llanwnda 1901
- ↑ Cyfrifiad tref Caernarfon 1911
- ↑ Cyfrifiad plwyf Llanwnda 1911; North Wales Express, 29.1-0.1909, t.5
- ↑ Y Genedl Gymreig, 14.4.1915, t.4
- ↑ Cyhoeddusrwydd gan Haf Jones a Pegler,asiantwyr tai [2], cyrchwyd 4.12.2025
- ↑ Gwybodaeth leol a phersonol