Thomas Elwyn Griffiths (Llenyn)

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Roedd Thomas Elwyn Griffiths yn cadw Siop Griffiths, sef siop nwyddau haearn ac offer cartref ym mhentref Pen-y-groes. Fe'i hadwaenid yn gyffredinol fel Llenyn. Cymerodd y siop drosodd oddi wrth ei dad, Thomas Griffiths, a sefydlodd y busnes ym 1911 cyn symud i safle newydd yng nghanol Pen-y-groes ym 1925. Yn 2011 penderfynodd gau'r siop oherwydd ei oed ac oherwydd nad oedd modd cystadlu gyda'r masnachwyr deunyddiau adeiladu mawr.[1]

Wedi i'r siop gael ei phrynu, synnwyd y grŵp cymuned a oedd wedi ei phrynu gan y cyfoeth o hen stoc a dogfennau yn cofnodi busnes a bywyd Llenyn a oedd wedi eu gadael i fyny'r grisiau.

Gwasanaethodd Llenyn am dros hanner canrif fel diacon yng Nghapel Soar, ac roedd yn adnabyddus ac yn weithgar yng nghymuned Pen-y-groes gydol ei fywyd. Cyfansoddodd y bardd a'i gyd-ddiacon, Twm Prys Jones, englyn ar achlysur ei anrhydeddu am 45 mlynedd o wasanaeth fel diacon yn 2002:

Hawlio cael hoe pentalar wedi cwys
wna'r diacon hawddgar,
diflino. Erwau Soar
drwy'i waith sydd heddiw'n dir âr."[2]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. Gwefan BBC Gogledd-Orllewin Cymru, [1], cyrchwyd 12.04.2002
  2. Gwefan BBC Gogledd-Orllewin Cymru, [2], cyrchwyd 12.04.2022