Teulu Pant Du

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Roedd Teulu Pant Du yn un o hen deuluoedd yr ardal, gan eu bod yn ddisgynyddion i Catherine ferch Morgan ap Huw ap Robert a ddisgynnodd yn ei dro o Dudur Goch o Nantlle. Priododd Catherine â William Humphrey, mab Humphrey ap Richard ap John ap Madog, ficer Llanbeulan ac aelod o deulu Bodfel, Llŷn. Aeth William a Catherine i fyw ym Mhant Du, ac roedd William yn uchel siryf y sir, 1611-12.

Arhosodd y llinach o hynny ymlaen ym Mhant Du nes i'r teulu uniongyrchol farw allan ym 1841.

William Humphrey, Pant Du = Catherine ferch Morgan ap Huw ap Robert
  |
Henry Humphrey, Pant Du, fl. 1625 = Dorothy, merch Gruffydd ap John, Cefnamwlch
   |
Catherine, unig blentyn = John Vaughan ap Richard Vaughan, Corsygedol, Dyffryn Ardudwy
   |
(Gruffydd Vaughan, Pant Du  = Ann ferch William Glynn, Lleuar Fawr – dim plant)
Catherine Humphreys, (marw 1714) = Richard Garnons, Garnons Hall, Sir Benfro
   |
(Hugh Garnons, Llanllyfni (marw 1698) = Elin ferch Robert Anwyl, Rhiw Goch, Trawsfynydd – dim plant)
Richard Garnons, Nantlle (marw 1742) = Catherine ferch Morus Anwyl, Cae Dafydd (marw 1718)
   |
John Garnons, Rhiw Goch  (ganed 1704) = Jane ferch Griffith Robert, Rhiw Goch
    | 
Capten Richard Garnons (1735-1803) = Ann, aeres a merch William Wynn, Plas Llanwnda (1733-1809)
    |
Richard Garnons (1773-1841) = Dorothea Foulkes, merch y Parch John Foulkes, Mertyn, Sir y Fflint (marw 1853). Dim plant, na                                neiaint/nithoedd).[1]

Cyfeiriadau

  1. J.E. Griffiths, Pedigrees of Caernarvonshire and Anglesey families, (Horncastle, 1914), tt. 157, 168, 172, 262.