Tabun yn Ninas Dinlle

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Yn yr erthygl yn Cof y Cwmwd ar Maes Awyr Caernarfon (Gwersyll RAF Llandwrog yn wreiddiol), soniwyd fel y cludwyd bomiau Almaenig yn cynnwys nwy gwenwynig i'w cadw yn y maes awyr ar ddiwedd yr Ail Ryfel Byd. Dyma dipyn mwy o'r hanes.

Yn yr Almaen yn Rhagfyr 1936 (a'r wlad honno erbyn hynny'n cael ei rheoli gan yr unben Adolf Hitler a'r Blaid Natsïaidd) darganfuwyd cemegyn hynod wenwynig gan wyddonydd digon di-nod o'r enw Dr Gerhard Schrader. Rhoddwyd yr enw Tabun arno. Roedd mor wenwynig fel y gallai anadlu un miligram ohono yn unig, neu ddod i gysylltiad â'r croen, fod yn farwol i bobl. Roedd yn un o'r sylweddau hynny sy'n ymosod ar system nerfol y corff, gan achosi confylsiynau erchyll a mygu o fewn ychydig funudau. Roedd yn bur debyg o ran ei effeithiau i Sarin, a oedd yn fwy marwol fyth.

Cynhyrchwyd tunelli o'r cemegyn hwn gan y Drydedd Reich ar ffurf hylif a oedd yn cael ei dywallt i mewn i sieliau a bomiau confensiynol, a ollyngid o awyrennau. Byddai'r rhain wrth ffrwydro yn gwasgaru'r cemegion dros ardal eang. Diolch i'r drefn, ni ddefnyddiwyd yr arfau cemegol hyn, a hynny'n bennaf oherwydd bod uwch swyddogion y fyddin Almaenig yn ofni dialedd dychrynllyd y Cynghreiriaid ar ddinasoedd yr Almaen a'i phoblogaeth sifil pe baent yn eu defnyddio yn eu herbyn. Roedd Hitler ei hun hefyd yn wrthwynebus i ddefnyddio arfau cemegol oherwydd iddo gael ei ddallu am gyfnod gan nwy gwenwynig pan oedd yn filwr yn y Rhyfel Byd Cyntaf. Fodd bynnag, roedd rhai o'r Natsïaid mwyaf penboeth eisiau defnyddio arfau cemegol yn ystod wythnosau olaf y rhyfel ond, yn ffodus iawn, ni ddigwyddodd hynny.

Wrth i fyddinoedd y Cynghreiriaid symud i mewn i'r Almaen yn 1945 daethant ar draws stociau enfawr o arfau cemegol - tabun, sarin a sylweddau eraill - mewn gwahanol fannau ar hyd a lled y wlad. Roedd penbleth fawr sut i ddelio â'r arfau enbyd hyn ac roedd yn rhaid rhoi sylw i'r sefyllfa yn ddiymdroi. Dyna pryd y daeth RAF Llandwrog, fel y'i gelwid bryd hynny, yn rhan o'r stori. Rhoddwyd Operation Dismal (enw priodol iawn ar yr ymgyrch filwrol hon) ar waith ym mis Hydref 1946 pryd y gwelwyd miloedd o fomiau 250kg i'w gollwng o awyrennau yn cael eu cludo ar longau o Hamburg i ddociau Casnewydd. Rhan nesaf y daith oedd eu cludo ar drenau dros nos oddi yno i Lanberis - roedd y teithiau hyn yn aml yn cymryd 3 diwrnod gan fod y trenau'n gorfod teithio'n araf iawn a dim ond yn y nos. O Lanberis cludwyd y bomiau mewn lorïau ar ran olaf eu taith i Ddinas Dinlle. Fel rheol byddai 10 lori ym mhob confoi a byddai'r heddlu, y gwasanaeth tân ac ambiwlans yn cyd-deithio â phob confoi a phan fyddent yn mynd trwy bentref Y Waunfawr byddai pobl a oedd yn byw ar bwys y ffordd fawr yn gorfod gadael eu cartrefi nes i'r cerbydau fynd heibio'n ddiogel.

Erbyn 13 Gorffennaf 1947 roedd 71,000 o fomiau'n cynnwys hylif tabun yn y maes awyr. Roedd y ffiwsys yn y bomiau o hyd a'r cam cyntaf oedd tynnu'r rhain i gyd yn ddiogel. Yn ystod y blynyddoedd cynnar cedwid y bomiau ar y lleiniau glanio mewn cratiau pren. Ond wrth iddynt gael eu gadael yn agored i'r tywydd roedd perygl mawr iddynt ddechrau gollwng ac i geisio lliniaru hynny roeddent yn cael eu trochi mewn hylif gwlân-olew (lanolin). Roedd hwn yn waith anodd a pheryglus gyda'r gweithwyr yn gorfod gwisgo siwtiau diogelwch a orchuddiai bob modfedd ohonynt. Er gwaethaf y rhagofalon hyn, daeth yn amlwg na ellid gadael y bomiau'n hir yn yr awyr agored. Fe wnaeth rhai ollwng a phan ddigwyddai hynny torrid tyllau dwfn mewn man penodol ar gyrion y maes awyr ac yna agor y bomiau a thywallt y cynnwys i'r tyllau a'u gorchuddio â thywod a phridd. Yn niwedd y 40au codwyd 21 o siediau awyrennau (hangars) Bellman ar y lleiniau glanio i gadw'r bomiau oddi wrth effeithiau gwaethaf y tywydd. Yn ystod y blynyddoedd hynny fe ddigwyddodd rhai damweiniau'n gysylltiedig â'r bomiau ar y safle, er na fu'r un yn angheuol. Mater arall, fodd bynnag, oedd effeithiau hir-dymor gweithio gyda'r fath gemegau peryglus ar iechyd dynion y Llu Awyr a'r gweithwyr sifil a gyflogid yno.

Erbyn dechrau'r 1950au roedd oddeutu 200 o ddynion y Llu Awyr a nifer o sifiliaid yn goruchwylio'r safle. Cadwyd y bomiau yno tan ganol y 50au, i ddibenion ymchwil a hefyd rhag ofn y byddent yn cael eu defnyddio yn y Rhyfel Oer a oedd yn dwysáu rhwng gwledydd y Gorllewin a Rwsia a gwledydd comiwnyddol dwyrain Ewrop. Fodd bynnag, erbyn hynny roedd arfau niwclear yn disodli rhai cemegol a phenderfynwyd cael gwared ar y bomiau tabun o Ddinas Dinlle. I'r perwyl hwnnw rhoddwyd Operation Sandcastle ar waith.

Y cam cyntaf oedd adeiladu ffordd newydd o'r maes awyr i ddoc Caer Belan gerllaw. Yno, llwythwyd y bomiau yn eu cratiau pren ar chwech o longau glanio milwyr (landing craft) mawr a'u cludo, fesul 500 o fomiau, i borthladd milwrol Cairnryan, gerllaw Stranraer yn ne'r Alban. Yno, fe'u llwythwyd i hen longau cargo a oedd wedi dod i ddiwedd eu hoes, eu hwylio o'r porthladd ac yna eu suddo gyda ffrwydron mewn safle penodedig 120 milltir i'r gogledd-orllewin o Iwerddon, lle roedd y môr, ar ôl mynd heibio i'r Ysgafell Gyfandirol, yn 6,000 troedfedd o ddyfnder. Dechreuodd Operation Sandcastle ym Mehefin 1955 gyda 157 o bersonél y Llu Awyr a 450 o weithwyr sifil yn cymryd rhan ynddi. Gosodwyd y bomiau mewn tair llong, yr Empire Claire, MV Vogtland a SS Kotka, a suddwyd y rhain ar wahanol adegau rhwng 27 Gorffennaf 1955 a 23 Gorffennaf 1956. Gyda diflaniad y bomiau tabun o RAF Llandwrog daeth oes y lle fel gorsaf filwrol i ben yn fuan wedyn i bob pwrpas a bu'n segur a diffaith am flynyddoedd nes iddo gael ei ailddatblygu'n sylweddol yn y 1980au a'r 90au a'i ailenwi'n Faes Awyr Caernarfon.

Nid oedd bomiau tabun Llandwrog ond cyfran fechan o'r cannoedd o filoedd o dunelli o arfau cemegol a chonfensiynol a ollyngwyd i'r moroedd yn dilyn yr Ail Ryfel Byd ac am flynyddoedd lawer wedyn. Lleisiwyd pryderon cynyddol ynghylch y llygredd a achoswyd ganddynt a diffyg gwybodaeth gan yr awdurdodau. Bu'r Weinyddiaeth Amddiffyn yn hir iawn yn cydnabod yn swyddogol fod Operation Sandcastle erioed wedi digwydd. Amser a ddengys a fydd effeithiau niweidiol yn deillio o hyn yn y dyfodol. Bellach mae bomiau Llandwrog ar waelod yr Iwerydd ers bron i 70 mlynedd a'r llongau a'u cynnwys wedi hen rydu a datgymalu erbyn hyn.[1]

Cyfeiriadau

  1. Mae'r hanes ar gael yn llawn yn y gyfrol The Tale of Tabun gan Roy Sloan (Gwasg Carreg Gwalch, 1998). Mae'r darn uchod wedi'i seilio ar wybodaeth o'r gyfrol hon a dymunir cydnabod hynny'n ddiolchgar.