Gwersyll RAF Llandwrog

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Gwersyll ar gyfer hyfforddi milwyr a phersonél y lluoedd arfog yn ystod yr Ail Ryfel Byd oedd Gwersyll RAF Llandwrog.

Penderfynwyd y byddai gwersyll yn cael ei adeiladu yno ym mis Medi 1940, yn dilyn newid yn nhactegau milwrol byddin yr Almaen. Roedd hyfforddiant wedi dechrau yno mor fuan â Ionawr 1941, ac ym mis Gorffennaf 1941 roedd y ‘No.9 Air Gunners School’ yno yn hyfforddi.

Gosodwyd yr RAF Bomber Command yno hefyd, gan hyfforddi gynwyr, llyw-wyr, a gweithredwyr radio. Roedd ar gau rhwng 1945 a 1969, ac roedd rhaid agor y maes yn 1969 ar achlysur Arwisgiad y Tywysog Siarl yng Nghastell Caernarfon.

Gwelir llawer o hen adeiladau o adeg y rhyfel yma ac acw ar draws Morfa Dinlle. Mae'r maes awyr wedi ail-agor ers y 1970au fel Maes Awyr Dinas Dinlle ar gyfer hedfan amser hamdden. Erbyn hyn fe'i gelwir yn Faes Awyr Caernarfon ac yno mae pencadlys lleol yr Ambiwlans Awyr a hofrennydd Gwylwyr y Glannau.

Tim Achub Mynydd

Yn 1942, yn dilyn damweiniau ym mynyddoedd Gwynedd ac achosion o awyrennau yn cwympo, roedd tîm o ddynion wedi dechrau gwirfoddoli i fynd ati i achub y rheiny a oedd wedi eu niweidio. Galwyd hwy yn ‘RAF Llandwrog Mountain Rescue Section’ ac, er eu trafferth a'u haberth, bu'n rhaid i'r grŵp hwn aros tan 1944 nes iddynt gael statws proffesiynol.

Tabun

Roedd nwy Tabun yn cael ei gadw ar y safle am gyfnod hefyd. Roedd 71,000 tunnell yn cael ei gadw o fewn bynceri yno, ac yn 1954 symudwyd y cyfan ohono i Cairnryan a'i ollwng i waelod y môr oddi ar arfordir Gogledd Iwerddon.[1]

Cyfeiriadau

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

  1. Edward Doylerush, The Ledgend of Llandwrog, The Story of an airfield and the birth of the RAF Mountain Rescue Service. (Midland Counties Publications, 1994)