Syr William Glynn, Penarlâg

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Roedd William Glynn, sydd yn gysylltiedig ag Ystad Penarlâg yn Sir y Fflint, yn aelod seneddol dros Sir Gaernarfon yn dilyn ei ethol ym 1659.[1] Mab ydoedd i Syr John Glynn (Y Sarsiant), ynatu'n ail fab Syr William Glynn, Glynllifon (1602-1666), cyfreithiwr llwyddiannus yn amser Cromwell, a brynodd Penarlâg fel cartref yn y 1650au. Prin oedd ei gysylltiadau fel arall gydag Uwchgwyrfai, ond arhosai peth tir yn eiddo iddo.

Fe wnaed William Glynn yn farwnig ym 1673. Trwy barhau i fyw ym Mhenarlâg, sefydlodd y teulu yno. Priododd ei or-or-wyres William Gladstone, ac mae teulu Gladstone yn dal ym Mhenarlâg.[2]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. A.H. Dodd, A History of Caernarvonshire, 1284-1900 (Caernarfon, 1968), t.153
  2. J.E. Griffith, Pedigrees of Anglesey and Caernarvonshire Families. (Horncastle, 1914), tt.172, 261