Stent Tiroedd Esgobaeth Bangor ?1335
Gwnaed arolwg o renti a thaliadau a delid i Esgob Bangor tua 1335, ac mae'r ddogfen hon, y gellid ei galw'n Stent Tiroedd Esgobaeth Bangor ar gael, ac wedi ei hadysgrifio yng nghyfrol Record of Caernarvon a gyhoeddwyd ym 1838.[1] Mae’r Stent yn rhestru trefgorddi dan berchenogaeth Esgobaeth Bangor fesul cantref. Mae’r asesiad ar gyfer Arfon yn cynnwys pum trefgordd, sef Llanwnda, Llanfaglan, Castellmai, Llanfair a Rhyddallt. Gan mai cyfieithiad o ddeunydd yn ymwneud ag Uwchgwyrfai yn unig a wnaed, dylid cyfeirio at y testun argraffedig i weld holl asesiad Arfon. Dylid, serch hynny, gofio fel y bu Llanfaglan (yn ôl Siarter Eglwys Clynnog Fawr) yn eiddo i fywoliaeth Clynnog Fawr, gan rannu'r un caplan neu offeiriad gyda phlwyf Llanwnda. Mae cyfieithiad y siarter ar gael yn Cof y Cwmwd yma.
Cyfieithiad o'r Testun (“Record of Caernarvon”, rhannau o tt.95-7)
DS: Mae dotiau "...." yn dynodi rhannau sydd yn ymwneud â threfgorddi eraill Arfon ac sydd felly heb gael eu cyfieithu.
Cantref Arfon
Stent o Gwmwd Arfon a wnaed yn Llanbeblig ddydd Iau bymtheg diwrnod wedi [Gŵyl] Sant Mihangel yn chweched blwyddyn teyrnasiad tywysogaethol y Tywysog Edward. [1335]
....
LLANWNDA
Mae Goronw’r caplan, Einion ei frawd, Cyfnerth eu brawd, Adaf ap Madog, Madog ei frawd, Gwion ap Cyfnerth, Madog ap Adaf, Gwenllian ferch Gwion, Dafydd ap Cyfnerth, Cyfnerth ei frawd, Llywarch ap Einion, Madog ap Iocyn, Adda ap Cyfnerth, Madog ei frawd, Cyfnerth ap Cad’, a Madog ap Cyfnerth yn dal 18 preswylfa a 12 bufedd o dir rhydd. Ac maent yn cyflwyno 2s. 8c. adeg Gŵyl yr Holl Saint. A 22c. adeg Gŵyl yr Apostolion Philip ac Iago. Ac adeg yr un ŵyl, bara a menyn gwerth 2c.
Mae Gwyn ap Heilin, Goronw ei frawd, Heilin ap Heilin, Cyfnerth ap Einion, Ieuan ei frawd, Goronw ap Iocyn, Goronw ap Madog, Madog ap Cynwrig a Iorwerth ei frawd yn dal 9 preswylfa a 12 bufedd o dir. Ac maent yn cyflwyno 2s. 8c. adeg Gŵyl yr Holl Saint. A 22c. adeg Gŵyl yr Apostolion Philip ac Iago. Ac adeg yr un ŵyl, bara a menyn gwerth 2c. Ac ebediw ac amobr fel uchod [sic].
Mae Heilin ap Ieuan, Philip ap Iocyn, Cad’ ei frawd, Ieuan eu brawd, Ieuan ap Tegwared, Iorwerth ap Dafydd ac Ieuan ap Dafydd yn dal 9 preswylfa a 12 bufedd o dir. Ac maent yn cyflwyno 2s. 8c. adeg Gŵyl yr Holl Saint. A 22c. adeg Gŵyl yr Apostolion Philip ac Iago. Ac adeg yr un ŵyl, 2c. ar gyfer bara a menyn. Ac ebediw ac amobr fel uchod. [sic].
Mae Goronw Fychan, Madog ap Iorwerth, Madog ap Cynddelw, Madog ap Goronw, Adda ap Goronw ei frawd, Mabli ferch Cad’, Efa ei chwaer, Elen ferch Madog, Hag’ ei chwaer, Ieuan ap Philip, Einion ap Madog, Dafydd Rwth, Iocyn ei frawd, Goronw ap Adda, Tegwared ap Meurig, Ieuan ap Madog [?]o’r un gwely yn dal 17 preswylfa a 12 bufedd o dir. Ac maent yn cyflwyno 2s. 8c. adeg Gŵyl yr Holl Saint. A 22c. adeg Gŵyl yr Apostolion Philip ac Iago. Ac adeg yr un ŵyl, 2c. ar gyfer bara a menyn, Ac ebediw ac amobr fel uchod [sic].
Mae Philip ap Cwellyn yn dal un breswylfa a 12 bufedd o dir. Ac mae o’n cyflwyno 2s. 8c. adeg Gŵyl yr Holl Saint. A 22c. adeg Gŵyl yr Apostolion Philip ac Iago. Ac adeg yr un ŵyl, 1c. ar gyfer bara a menyn. Ac ebediw ac amobr fel uchod [sic].
Cyfanswm 23s.3c., un rhan ar gyfer tymor yr Holl Saint [sef] 13s. 4c., ac ar gyfer tymor yr Apostolion Philip ac Iago, 9s. 11c.
....
RHAI Y RHODDWYD TENANTIAETH IDDYNT (Tenantiaid Adfowri). ‘’’’
Yn nhrefgordd Llanwnda, y mae 11 tenant sydd wedi cael tenantiaeth trwy adfowri [sef nid trwy etifeddiaeth]. Ac maent yn cyflwyno 22c. adeg Gŵyl yr Holl Saint.
--Cyfeiriadau==
- ↑ Registrum Vulgariter Nuncupatum "The Record of Caernarvon" ê Codice Ms. Harleiano 696. (Llundain, 1838), tt.95-7