Sinn Féin
Neidio i'r panel llywio
Neidio i'r bar chwilio
Mae gan blaid wleidyddol Sinn Féin o Iwerddon gysylltiad annisgwyl â chwmwd Uwchgwyrfai.
Sefydlwyd plaid Sinn Féin gan Arthur Griffith, disgynnydd i deulu a ymfudodd i Iwerddon o Ddrws-y-coed. Sefydlodd William Griffith, hen hen daid Arthur Griffith, addoldy a chartref i gangen o enwad y Morafiaid ar lan Llyn y Dywarchen ar ben ucha’ Dyffryn Nantlle. Yn ddiweddarach symudodd y teulu i Iwerddon. [1]
Cyfeiriadau
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma