Arthur Griffith

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Bedd Griffith ym Mynwent Glasnevin

.

Arthur Griffith (1871-1922) oedd ail Arlywydd Gwladwriaeth Rydd Iwerddon (Irish Free State), a ddaeth maes o law yn Weriniaeth Iwerddon. Ef hefyd oedd sylfaenydd ac arweinydd cyntaf Sinn Féin. Roedd yn bennaeth y tîm Gwyddelig yn y trafodaethau gyda'r Llywodraeth Brydeinig a arweiniodd at annibyniaeth Iwerddon ym 1921.

Ganed Griffith yn Nulyn, o dras Cymreig. Hanai ei deulu o Ddrws y Coed Uchaf ger Llyn y Dywarchen yn Eryri. O'r tŷ yma yr aeth aelodau o deulu William Griffith, a oedd wedi coleddu'r ffydd Arminaidd neu Forafaidd, i Iwerddon.

Bu Arthur Griffith yn gweithio fel argraffydd am gyfnod cyn ymuno â'r Cynghrair Gaeleg a oedd yn anelu at adfer yr iaith Wyddeleg. Daeth yn aelod o'r Irish Republican Brotherhood (IRB). Ym 1900, sefydlodd fudiad Cumann na nGaedheal ac, yn 1903, gyngor cenedlaethol i wrthwynebu ymweliad y brenin Edward VII o Loegr ag Iwerddon. Ym 1905, ymunodd hwn â chyrff eraill i ffurfio Cynghrair Sinn Féin ("Ni'n hunain").

Yn dilyn Gwrthryfel y Pasg bu cynnydd mawr yn y gefnogaeth i Sinn Féin. Etholwyd Griffith yn aelod seneddol dros Ddwyrain Cavan mewn is-etholiad yng nghanol 1918. Gwrthodasant fynd i'r senedd yn Llundain, gan sefydlu senedd Wyddelig Dáil Éireann (1919-1922). Dilynwyd hyn gan Ryfel Annibyniaeth Iwerddon yn erbyn y fyddin Brydeinig. Carcharwyd Griffith am gyfnod ym 1921.

Ym mis Hydref 1921, gofynnodd yr Arlywydd Éamon de Valera iddo fod yn arweinydd y tîm Gwyddelig yn y trafodaethau gyda'r Llywodraeth Brydeinig. Ar ôl llawer o fargeinio daethpwyd i gytundeb cyn diwedd y flwyddyn, sef y Cytundeb Eingl-Wyddelig. Cyfaddawd oedd hwn gan mai statws dominiwn oedd yn cael ei gynnig i ran ddeheuol Iwerddon (roedd 6 sir y gogledd i ddod yn Dalaith Gogledd Iwerddon o fewn y Deyrnas Unedig) yn hytrach na gweriniaeth lwyr annibynnol. Ymddiswyddodd de Valera mewn protest yn erbyn hyn, a daeth Griffith yn Arlywydd ar Wladwriaeth Rydd Iwerddon (Irish Free State), a ddaeth ymhen rhai blynyddoedd yn Weriniaeth Iwerddon. Erbyn hyn roedd iechyd Griffith yn dirywio, a bu farw ar 12 Awst, 1922, yn 50 oed. Claddwyd ef ym Mynwent Glasnevin, Dulyn.[1]

Gall Dyffryn Nantlle, a Drws-y-coed yn benodol, felly hawlio rhan fechan yn hanes buddugoliaethus Iwerddon fel gwlad annibynnol. Gwarth yw bod olion hen gartref Griffith wedi ei chwalu o fewn cof i wneud lle i bysgotwyr barcio eu ceir.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. Addaswyd o erthygl Wicipedia [1], cyrchwyd 28.8.2019