Samaria

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Ceir ychydig gyfeiriadau at yr annedd hwn, sef Samaria, a safai ar gyrion Mynydd y Cilgwyn ym mhlwyf Llandwrog. Fe'i nodir yn llyfr treth plwyf Llandwrog ym 1839 a 1845, ac mae yng Nghyfrifiad 1851 ac ar fap Ordnans 1920. Mae'n swnio fel enw ar gapel, ond prin y byddai crefyddwyr cynnar a golau yn eu Beibl wedi galw capel yn Samaria. Yng ngwlad Canaan, safai teyrnas Samaria yn y canol rhwng Jwdea yn y de a Galilea yn y gogledd, a datblygodd gelyniaeth chwerw rhwng y Samariaid a'r Iddewon. Daw hyn i'r golwg yn Nameg y Samariad Trugarog ac yn yr hanes am Iesu'n cyfarfod â'r wraig o Samaria wrth Ffynnon Jacob yn y Testament Newydd. Efallai i'r Samaria yn y Cilgwyn gael yr enw hwnnw'n goeglyd fel rhywle anial ac anghysbell na fyddai neb yn awyddus i fynd yno, ac nid nepell oddi wrtho ar un adeg safai tyddyn o'r enw Greenland, sydd eto'n awgrymu oerni a diffyg cysur. Yn ôl W.R. Ambrose yn ei gyfrol Hynafiaethau, Cofiannau a Hanes Presennol Nant Nantlle, a gyhoeddwyd gyntaf ym 1872, trigai hen wraig dduwiol o'r enw Jane Roberts, a adwaenid fel 'Siân Fwyn', yn Samaria ddechrau'r 19g ac roedd hi'n dipyn o emynyddes er gwaethaf enw ei chartref.[1]

Cyfeiriadau

  1. Glenda Carr, Hen Enwau o Arfon, Llŷn ac Eifionydd, (Gwasg y Bwthyn, 2011), tt.230-1.