Greenland

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Safai annedd o'r enw Greenland ar gyrion Mynydd y Cilgwyn ym mhen uchaf plwyf Llandwrog. Ym 1839 y gwelwyd y cyfeiriad cynharaf ato yn llyfr treth plwyf Llandwrog, a'r cyfeiriad olaf ar fap Ordnans 1920. O ystyried ei safle uchel ac anial ar lethrau'r Cilgwyn, mae'n amlwg i'r enw Greenland gael ei roi arno'n ddychanol neu'n wawdlyd - ei bod bron cyn oered yno ag ar ynys rewllyd ac anial Greenland yng ngogledd Môr Iwerydd. Gelwir y math hwn o enw lle yn enw trosglwyddedig, lle mae enw dilys ar fan arbennig yn cael ei drosglwyddo i fan arall fel enw dychanol neu ddisgrifiadol. Cofnodwyd tŷ o'r un enw ym mhlwyf Llanengan yn Llŷn.[1]

Cyfeiriadau

  1. Glenda Carr, Hen Enwau o Arfon, Llŷn ac Eifionydd, (Gwasg y Bwthyn, 2011), t.174.