Robat Arwyn

Oddi ar Cof y Cwmwd
(Ailgyfeiriad o Robert Arwyn Jones)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Ganwyd Robert Arwyn Jones neu Robat Arwyn, y cyfansoddwr, ym mhentref Tal-y-sarn ym 1959. Bu'n ddisgybl yn Ysgol Tal-y-sarn ac Ysgol Dyffryn Nantlle cyn iddo raddio mewn Cerddoriaeth yng Nghaerdydd ym 1980 ac ennill Diploma mewn Llyfrgellyddiaeth o Goleg Llyfrgellwyr Aberystwyth y flwyddyn ganlynol. Treuliodd ei holl yrfa fel llyfrgellydd yn Sir Ddinbych, gan ddiweddu ei yrfa fel pennaeth y gwasanaethau diwylliannol yno. Er gwaethaf ei brysurdeb a'i lwyddiant yn ei briod faes, mae wedi cyfansoddi llawer iawn o gerddoriaeth, yn bennaf ar gyfer corau ac unawdwyr. Ymysg ei gyfansoddiadau y mae rhai o ganeuon mwyaf poblogaidd Cymru, megis Benedictus ac Anfonaf Angel. Mae wedi cydweithredu â nifer o feirdd, gan gynnwys Robin Llwyd ab Owain a Mererid Hopwood, gan osod eu geiriau i gerddoriaeth. Mae'n dal i fyw yn Rhuthun. Mae'n briod gyda dau o blant.

Mae'n aelod o Gôr Rhuthun ers 1981, ac yn cyfeilio i'r côr a chyfansoddi ar ei gyfer ers 1987. Wedi marwolaeth Morfydd Vaughan Evans, sefydlydd ac arweinydd y côr, yn 2007, cymerodd Arwyn yr awenau.

Bu hefyd yn aelod o Trisgell rhwng 1982 ac 1995. Triawd a ffurfiodd gyda dau ffrind oedd yn canu wrth ei ochr yn rhengoedd y baswyr yng Nghôr Rhuthun, sef Arwyn Vaughan a Llion Wyn, oedd Trisgell.

Cyhoeddodd Robat Arwyn 13 cyfrol o ganeuon, nifer o ddarnau corawl unigol a naw sioe gerdd, gan gynnwys Er Mwyn Yfory, Plas Du a Hwn yw fy Mrawd. Fo a Robin Llwyd ab Owain oedd yn gyfrifol am opera roc Ceidwad y Gannwyll a berfformiwyd yn Eisteddfod Genedlaethol Y Rhyl, 1985.

Dros y blynyddoedd mae wedi cael ei gomisiynu gan yr Eisteddfod Genedlaethol, Urdd Gobaith Cymru, Radio Cymru a Mudiad Ffermwyr Ifanc Cymru, yn ogystal â Chôr Meibion Cymry Llundain, Bois y Castell, Côr Seiriol ac eraill.

Atgof o'r Sêr oedd gwaith comisiwn Eisteddfod Genedlaethol Sir Ddinbych 2001 ac fe'i hysgrifennwyd ar gyfer Bryn Terfel, Fflur Wyn a Chôr Rhuthun. Yn Eisteddfod Genedlaethol Eryri 2005 perfformiwyd Er Hwylio'r Haul, gwaith comisiwn ar gyfer Bryn Terfel, Mari Wyn Williams a Chôr Ieuenctid yr Eisteddfod.

Cafodd Benedictus, ei gyfansoddiad mwyaf llwyddiannus yn rhyngwladol,(allan o Er hwylio’r haul), ei recordio’n wreiddiol gan Bryn Terfel a Rhys Meirion, cyn i The Priests o Iwerddon ei chynnwys ar eu halbwm glasurol gyntaf yn 2008. Cyrhaeddodd honno Rhif 1 yn Iwerddon a Norwy, y 10 Uchaf yn y Ffindir, Seland Newydd, Sbaen, y Deyrnas Unedig, Denmarc, Gwlad Belg a Sweden, yn ogystal â dal ei gafael ar y Rhif 1 yn Siart Clasurol y Billboard yn yr Unol Daleithiau am 23 wythnos.

Mae Ysgol Dyffryn Nantlle wedi comisiynu sawl darn ganddo dros y blynyddoedd, yn cynnwys Cerdded hyd y Llethrau ym 1998 i ddathlu canmlwyddiant yr ysgol; ac Anfonaf Angel yn 2008, a berfformiwyd am y tro cyntaf mewn cyngerdd gan yr ysgol yn Galeri, Caernarfon, gyda Bryn Terfel (cyn-ddisgybl arall yr ysgol) fel unawdydd. Er bod Anfonaf Angel wedi dod yn gân unigol a recordiwyd gan Bryn Terfel yn 2011 i godi arian at Ambiwlans Awyr Cymru, roedd yn wreiddiol yn un o set o chwe chân, Yn dy gwmni di, a gyfansoddwyd dan gomisiwn yr ysgol.[1]

Mae ei gomisiynau diweddar yn cynnwys Hanes creu popeth yn y byd!, geiriau gan Mererid Hopwood, gwaith comisiwn gan Ŵyl Gerdd Gogledd Cymru ar gyfer Côr Rhuthun, Côr Cytgan Clwyd a Chôr Ysgol Pen Barras; Pan fo'r geiriau wedi gorffen ar gyfer John Ieuan Jones; a Lle mae llais yn cyffwrdd lleisiau, cân gomisiwn gan Gôr Cymry America. Yn 2016, cyfansoddodd Dy Hanner Di o'r Byd ar gyfer Côr Cofnod, y mae llawer o'r aelodau'n dod o Uwchgwyrfai, gyda geiriau gan y bardd o Ben-y-groes, Karen Owen.

Bydd yn teithio led led Cymru yn cynnal nosweithiau Y Gair Tu Ôl i'r Gân, sy'n gyfuniad o sgwrs a chyngerdd. Yn ystod y nosweithiau bydd yn perfformio nifer o'i ganeuon adnabyddus, gan gynnwys Yfory, Anfonaf Angel a Benedictus.[2]

Cyfeiriadau

  1. Wicipedia, erthygl ar Ysgol Dyffryn Nantlle, [1], cyrchwys 24.01.2021
  2. Seiliwyd yr erthygl hon ar Wefan Robat Arwyn, [2]; Gwefan Curiad, [3]; Wicipedia, [4]; a'r Wikipedia Saesneg, [5]; i gyd wedi'u cyrchu 24.01.2021