Pont Cerrig-y-rhyd

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Mae Pont Cerrig-y-rhyd yn croesi Afon Gwyrfai ac felly yn croesi o blwyf Llanwnda yn Uwchgwyrfai i blwyf Betws Garmon yn Is-gwyrfai, a hynny nid nepell o Plas-y-nant. Mae trac yn mynd drosti sydd yn cysylltu ffermydd Pen-y-gaer a Chwm Bychan, a oedd yn arfer â bod ym mhlwyf Llanwnda, efo'r briffordd o Gaernarfon i Feddgelert. Nid oes sicrwydd pryd y codwyd y bont ond mae map cyntaf yr Arolwg Ordnans, 1888, yn ei dangos fel mae Map Degwm plwyf Llanwnda (1843). Mae'n ddiddorol sylwi nad yw Map Degwm plwyf Betws Garmon yn dangos y bont, er bod y map wedi ei wneud tua'r un flwyddyn, ac mae'r enw yn cynnwys enw fferm Cerrig-y-rhyd sydd ym mhlwyf Betws Garmon. Tybed a ellir casglu o hyn nad oedd bont yn bwysig ond i drigolion y darn diarffordd o blwyf Llanwnda yng Nghwm Bychan ar lethrau Mynydd Mawr.