Pont Betws Garmon

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Saif Pont Betws Garmon (neu Pont y Betws) ar ffin Uwchgwyrfai, dros Afon Gwyrfai, yn cysylltu hen blwyfi Betws Garmon a Llanwnda. Bu pont yn y llecyn hwn yn weddol gynnar, gan fod adroddiadau bod y bont mewn cyflwr gwael ym 1660.[1]

Ym 1776, adroddwyd wrth y Llys Chwarter fod yr hen bont yn "annigonol, yn anghyfleus ac angen ei hatgyweirio", a rhoddwyd contract i Henry Parry, saer melinau, o Foel-y-don, Ynys Môn, i'w hailadeiladu'n llwyr, gan ei lledu. Pont saith bwa oedd hi, ac yr oedd angen lledu'r ddau fwa mawr i 18 troedfedd, codi dau fwa newydd mwy, un ar bob ochr i'r bwáu mawr, a thri bwa llai ar lan Llanwnda o'r afon, 6 throedfedd o led yr un. Y gost am y gwaith hwn oedd £250.[2]

Mae dyddiad ar y bont, sef 1777, ac enw Henry Parry ar garreg dan y bont.[3]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. Archifdy Caernarfon, XQS/1660/
  2. Archifdy Gwynedd, XPlansB/168
  3. Gwefan British Listed Buildings, [1], cyrchwyd 9.6.2022