Perchnogion chwareli llechi
Yr oedd nifer o berchnogion chwareli llechi yn Nyffryn Nantlle o'r dyddiau cynharaf ymlaen. Yn y cyfnod modern, cychwynnwyd cloddio am lechi oddeutu 1750 ar ochr Mynydd Cilgwyn, a hynny'n answyddogol, hynny yw heb ganiatâd y tirfeddiannwr honedig, sef Coron Lloegr. O 1800 ymlaen, tyfodd y diwydiant ac unwyd chwareli bach yn unedau mwy dan reolaeth neu berchnogaeth nifer fechan o berchnogion. Rhywbeth nad yw'n cael ei sylweddoli'n aml oedd cyn lleied o dir oedd gan Arglwydd Newborough yn y dyffryn ei hun ac felly cyn lleied oedd ei ddiddordeb yn y fasnach lechi yno; roedd ganddo chwareli mawr yng Nglynrhonwy, Cedrun (Dyffryn Conwy) a Ffestiniog.
Rhestrir yma y perchnogion yng nghyfeiriaduron cynnar Gogledd Cymru. Ar ôl 1844, nodir i raddau helaeth y cwmnïau'n unig, fel yr unwyd chwareli'n fusnesau mwy ym mherchnogaeth cwmnïau.
Yng Nghyfeiriadur Masnach Pigot, 1828-9, enwir y canlynol:
- Chwarel Ceunant y Glaw: Cyrnol Hughes, (asiant lleol, J. Trimmer)
- Chwarel Coedmadog: George Bettiss
- Chwarel Green: George Johnson - hyd yma, nid yw wedi bod yn bosibl adnabod "Chwarel Green"; efallai fod yr enw'n cyfeirio at liw'r llechen, gan fod llechi gwyrdd wedi cael eu cynhyrchu ar ochr dde'r dyffryn. Efallai mai cyfeirio at Chwarel Tŷ Mawr Green y mae'r cyfeiriad yn y Cyfeiriadur Masnach.
- Chwarel Hafodlas: Mrs Humphreys
- Chwarel Pen-y-bryn: Richard Garnons (asiant lleol, Owen Jones)
- Chwarel Tal-y-sarn: Smith a'r cwmni[1]
Yng Nghyfeiriadur Pigot, 1835, enwir y canlynol:
- Chwarel Coedmadog: (asiant, George Bettiss)
- Chwarel Dorothea: William Turner a Morgans
- Chwarel Pen-y-bryn: Richard Garnons
- Chwarel Pen-yr-orsedd: Thomas Cane
- Edwin Shelton
- William Turner (iau)
- Chwarel Tal-y-sarn: Rundel a chwmni[2]
Yng Nghyfeiriadur Masnach Pigot a Slater, 1844, enwir y canlynol;[3]
- Chwarel Cilgwyn: Cwmni Chwarel Lechi Cilgwyn (asiant, Owen Jones)
- Chwarel Moel Tryfan a Chwarel Pen-y-bryn: Cwmni Moel Tryfan a Phen-y-bryn (asiant, Thomas Davids)
- Chwarel Pen-yr-orsedd: Thomas Cane
- Chwarel Tal-y-sarn: Rundel a chwmni (asiant, Henry R Cox)
- Chwarel Dorothea: William Turner a John Morgan
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma