Melin Newydd

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Ym 1865, ceir sôn am Felin Newydd yn llyfr rhent plwyf Clynnog Fawr. O'i safle yn y rhestr, dichon mai ger Tŷ'n Twll a Thŷn-y-coed (i'r dwyrain o'r ffordd fawr ac i'r gogledd o bentref Clynnog) roedd hi'n sefyll, er nad oes arwydd ar fap Ordnans 1888 fod melin wedi bod yno. Mae'r map yn dangos dau bwll ger adeiladau fferm Tŷ'n-y coed, fodd bynnag, a gallai'r rhain fod wedi bod yn gysylltiedig ag olwyn ddŵr neu felin.

Ym 1674 ceir sôn am Felin Clynnog, nad yw ei lleoliad yn hysbys, fel rhan o eiddo ystad Lleuar Fawr. Tybed ai'r un oedd y ddwy felin.

Beth bynnag am hynny, ym 1865 David Williams oedd y perchennog ond ni restrir tenant iddi. Gall hyn olygu fod y felin eisoes wedi cau, neu ei bod erbyn hynny'n adeilad a ddefnyddid at ddibenion eraill.[1]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. Llyfr rhenti plwyf Clynnog Fawr, 1865