Hen Ddiwydiannau Ardal Rhostryfan

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Yn y dyddiau gynt roedd yn rhaid i bob ardal ddarparu ar gyfer ei hangenrheidiau ei hun, yn flawd, dillad, esgidiau, brethyn ac yn y blaen. O ganlyniad ceid nifer dda o grefftwyr gwlad ym mhob bro, yn seiri coed a seiri maen, gofaint, melinwyr, teilwriaid, gwehyddion a chryddion. Nid oedd ardal Rhostryfan yn eithriad yn hyn o beth fel yr ymdriniodd W. Gilbert Williams yn ei ysgrif ar Hen Ddiwydiannau Ardal Rhostryfan.[1]

Bu ffatri wlân brysur yn gweithredu yn Ffatri Tryfan tan ddechrau'r 20g ac roedd yn bwysig i Rostryfan a'r ardaloedd cyfagos. Roedd gwlân yn cael ei nyddu gartref yn aml ar droell gan ferched yn ystod y gaeaf ac yna ei gludo i'r ffatri i'w wehyddu'n frethyn. Roedd pandy ar gael wedyn yn hwylus yn Y Bontnewydd i bannu'r brethyn.

Yn Y Dolydd roedd barcdy i drin lledr ar gyfer esgidiau. Tu allan i'r barcdy roedd nifer o gafnau dŵr a rhoddid rhisgl derw yn y rhain. Roedd y rhisgl o gymorth i feddalu a lliwio'r lledr ac yn aml hefyd ychwanegid piso at y gymysgedd i'r un diben. Arferai rhai fynd o gwmpas tai'n casglu cynnwys potiau siambr i'r pwrpas hwn! Ar ôl tynnu'r blew neu'r gwlân oddi ar y crwyn fe'u rhoddid i socian am dipyn yn y cafnau hyn i'w meddalu. I'r Dolydd y deuai cryddion yr ardal i gael eu lledr.

Codwyd gweithdy sylweddol i gryddion yn Nhan'rallt ac ar un adeg bu cymaint â dwsin o gryddion yn gweithio yno. Dywedid bod sôn am safon uchel esgidiau Tan'rallt ymhell ac agos ac roedd llawer o'r cryddion yn dod yn wreiddiol o Sir Fôn, a oedd yn enwog am ei hesgidiau mewn pentrefi fel Llannerch-y-medd.

Roedd gweithdy mawr yn gwneud a thrwsio dodrefn tŷ yn y fan lle daeth Siop Newydd yn ddiweddarach. Gweithiai rhyw hanner dwsin o seiri yno yn gwneud dodrefn a gwaith cyffredinol i dai, ffermydd a chapeli. Roeddent yn gwneud troliau, berfâu ac offer cyffelyb hefyd. Roedd gweithdy saer yn Nhyddyn Madyn yn ogystal.

Roedd galw mawr ar un cyfnod am lechi ysgrifennu ar gyfer plant ysgol a bu sawl melin lechi'n cynhyrchu'r rhain yn ardal Rhostryfan. Roedd un yn Is Horeb ac un arall ger Hafod Boeth, gyda dwy neu dair yn ogystal ger Y Bryngwyn.

Bu gefail yn Y Tryfan ar un adeg. Yn ogystal â gwneud gwaith haearn cyffredinol - pethau fel rhawiau, pladuriau, giatiau, proceri etc. roedd breichiau a choesau haearn yn cael eu gwneud yno ar gyfer rhai a oedd wedi colli braich neu goes mewn damwain. Gyda chymaint o chwareli llechi yn yr ardal digwyddai damweiniau o'r fath yn gyson, gwaetha'r modd. Dywedir bod Owen Griffith o'r Tryfan yn ddyn medrus am wneud y pethau hyn a deuai pobl ato o gylch eang.

Cyfeiriadau

  1. W. Gilbert Williams, Moel Tryfan i'r Traeth, (Cyhoeddiadau Mei, 1983), tt.88-90.