Gwylwyr y Glannau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Cwt Gwylwyr y Glannau, Llandwrog

Mae gan Gwylwyr y Glannau hanes hir yn Uwchgwyrfai, mae'n debyg, gan fod "Abermenai watch house" ymysg eiddo a restrir ar un o weithredoedd Ystad Glynllifon ym 1781.[1]

Erbyn hyn, mae gan Gwylwyr y Glannau ddau safle ym mhlwyf Llandwrog sydd yn gwasanaethu holl arfordir Uwchgwyrfai (lle mae'r Gwylwyr y Glannau traddodiadol yn y cwestiwn), a thros ran helaeth o orllewin ynys Prydain a Môr Iwerddon gyda hofrenyddion. Daw'r gweithgareddau o dan swyddfa ranbarthol Gwylwyr y Glannau yng Nghaergybi (a elwir yn Ganolfan Gydgysylltu Achub Morwrol).

Sefydlwyd y gwasanaeth yn wreiddiol ym Mhrydain ym 1822. I ddechrau, canolbwyntiwyd ar atal smyglwyr a sicrhau na fyddai pobl yn osgoi talu tollau ond, o'r 1850au ymlaen, cryfhaodd y gwaith o achub bywydau.

Credir mai yn ystod yr ail ryfel byd y sefydlwyd gorsaf bresennol Gwylwyr y Glannau yn Llandwrog, mewn cysylltiad â gweithgareddau ym Maes Awyr Caernarfon, neu "R.A.F. Llandwrog" fel y'i gelwid yr adeg honno. O'r adeg honno ymlaen, defnyddid cwt y gwylwyr y drws nesaf i'r dafarn yn y pentref, ac mae hynny'n parhau hyd heddiw. Gwirfoddolwyr yw'r holl aelodau o dîm Gwylwyr y Glannau Llandwrog.

Er 2015, mae Gwasanaeth Achub Môr ac Awyr wedi ymsefydlu mewn adeilad mawr newydd ym Maes Awyr Caernarfon, pan gymerodd contractwyr, sef Cwmni Hofrenyddion Bristow, y gwaith drosodd oddi wrth y Llu Awyr yn y Fali. Gwasanaeth hollol broffesiynol yw hwn, yn hollol ar wahân i orsaf gwirfoddolwyr Llandwrog.[2]

{{eginyn}{}

Cyfeiriadau

  1. Archifdy Caernarfon, XD2/7265
  2. Wikipedia, erthygl ar H.M. Coastguard, [1], cyrchwyd 20.11.2022