Gwilym Ddu o Arfon

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Bardd a oedd yn byw ar ddiwedd y 13g. a dechrau'r 14g. oedd Gwilym Ddu o Arfon. Dywedir bod ei gartref ger safle hen ffarm Tyddyn Tudur, sydd bellach wedi ei ddymchwel. Nid oedd nepell o Blas Glynllifon, a hyd nes i Spencer Bulkeley Wynn, 3ydd Arglwydd Newborough ailddylunio Parc Glynllifon tua 1840, roedd yno hen furddun a elwid yn Muriau Gwilym Ddu a chwalwyd er mwyn creu planhigfa goed addurniadol.[1]

Syr Gruffudd Llwyd o Dregarnedd a Llys Dinorwig oedd ei brif noddwr, ac ysgrifennodd awdl farwnad i Drahaearn Brydydd ap Goronwy hefyd, sydd i'w gweld yn Llyfr Coch Hergest. Priodolir iddo englyn a ysgrifennwyd i ddathlu coroni Iorwerth II o Loegr ym 1307. Ymddengys fod Syr Gruffydd Llwyd wedi bod yn gefnogol i Iorwerth I a gorsedd Lloegr (hyd nes iddo benderfynu gwrthryfela a chael ei garcharu yng Nghastell Rhuddlan am hynny ym 1322, pryd y cyfansoddodd Gwilym Ddu "Awdl y Misoedd".[2] Dichon iddo ddioddef fel pob bardd llys oherwydd colli nawdd llysoedd y tywysogion a'r arglwyddi Cymraeg.[3]

Golygwyd gwaith y bardd gan R. Iestyn Daniel yn: N.G. Costigan (Bosco) ac eraill (gol.), Gwaith Gruffudd ap Dafydd ap Tudur, Gwilym Ddu o Arfon, Trahaearn Brydydd Mawr ac Iorwerth Beli (Aberystwyth, 1995).

Cyfeiriadau

  1. W.R. Ambrose, Nant Nantlle (Pen-y-groes, 1872), t.39
  2. Y Bywgraffiadur Cymreig, (Llundain, 1953), t.306
  3. Meic Stephens (gol.), Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru, (Caerdydd, 1986), t.245