Guto Bach (Griffith T. Roberts)

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Arweinydd Band Gwirfoddolwyr Pen-y-groes oedd Guto Bach. Band oedd hwnnw a elwid yn 'Fand y Sowldiwrs Plwm' gan goeg-ddifyrwyr y fro.

Dywedid am Guto ei fod yn bur afrywiog ei dymer a bod ei ffiws yn un fer, fel y dengys ei ymddygiad yn ystod Cyflafan Fawr Pwllheli 1895[1]

Disgrifir Guto fel stwcyn byrgoes cryf a golwg 'selog' arno. Sonnir amdano gan Glan Rhyddallt yn yr Herald Cymraeg (tua 1943 efallai) fel cymeriad rhagorol ... ac yn gerddor uwchlaw y cyffredin

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. Cyrn y Diafol gan Geraint Jones 2004 tt.125-127