Gorsaf reilffordd Salem

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Mewn gwirionedd arosfan heb gyfleusterau oedd gorsaf Salem ar lan orllewinol Afon Gwyrfai, ac felly ym mhlwyf Llanwnda hyd 1888. Safai gyferbyn â chapel Salem a chasgliad o dai yr ochr arall i afon Gwyrfai, rhwng gorsaf Betws Garmon ac arosfan Plas-y-Nant, rhyw 6 milltir o orsaf Dinas.

Codwyd yr orsaf (sef platfform a chysgodfan amrwd) gan gwmni Rheilffordd Ucheldir Cymru a hynny mor hwyr â 21 Gorffennaf 1922. Nid oedd unrhyw gyfleusterau nwyddau, a rhaid oedd i ddarpar deithwyr gyrraedd yr arosfan dros bont ar draws Afon Gwyrfai. Daeth gwasanaethau i deithwyr i ben ym 1937.

Ffynonellau

J.I.C. Boyd, Narrow Gauge Railways in South Caernarvonshire, Cyf. 1, (Oakwood Press) 1988, t.194, 197