Fferm Bryn Ifan

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Fferm fynydd sylweddol o tua 450 erw yn ardal Capel Uchaf yw Bryn Ifan.

Ers ychydig flynyddoedd mae'r fferm ym meddiant Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru sydd yn gweithredu cynlluniau uchelgeisiol yno i amaethu'r tir mewn modd cynaliadwy a sensitif mewn partneriaeth â phobl leol er mwyn adfer cynefinoedd ac adfywio creaduriaid a phlanhigion, yn löynnod byw, rhedyn a blodau prin.

Ar hyn o bryd (2025) mae mynediad i gaeau isaf Bryn Ifan wedi'i gyfyngu i lwybr troed cyhoeddus ar hyd eu ffin dde-ddwyreiniol ond mae cynlluniau i wneud hwn yn fwy hygyrch yn fuan. Mae Bryn Ifan hefyd yn cynnwys bron y cyfan o Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig a elwir yn Cors y Wlad (sydd hefyd yn enw ar fferm gyfagos). Yn y gors ceir nifer o rywogaethau prin o löynnod byw, yn arbennig britheg y gors sy'n bwydo ar y planhigyn Tamaid y Cythraul, sy'n tyfu'n helaeth yn y gors. Gwelir yno hefyd y fritheg berlog fach, y gwalch-wyfyn gwenynaidd ymyl gul a'r troellwr bach. Mae'n gartref hefyd i frogaod, llyffantod a madfallod. Mae nifer o lwybrau wedi cael ei gosod drwy'r gors fel y gall ymwelwyr sylwi ar y bywyd gwyllt yno heb grwydro i bob man. Gweithredir cynlluniau yno i dorri coed coniffer ymledol, plannu coedlannau bach o helyg, torri brwyn rhag iddynt fynd yn rhy dal a phori ysgafn gan wartheg duon Cymreig yn ystod yr haf.

Uwchlaw Cors y Wlad, a'r ochr uchaf i'r lôn fynydd, mae tir Bryn Ifan yn ymestyn yn uchel i fyny llethrau Mynydd Bwlch Mawr. Ar y llethrau hyn gwelir olion amaethu o'r oesoedd canol, a chyn hynny, gydag adfeilion tai hirion ac aredig yn y dull cefnen a rhych. [I'w barhau]