Cors y Wlad
Fferm yn ardal Capel Uchaf yw Cors y Wlad. Fel mae'r enw'n awgrymu tir llaith a chorsiog a geir yno ac mae peth o dir y fferm wreiddiol dan blanhigfeydd o goed conifferaidd erbyn hyn. Yno am gyfnod sylweddol yn y 19g y trigai'r cymeriad hynod Owen Owens, a ddaeth yn destun cofiant gan y Parch. Henry Hughes, Bryncir, sef Owen Owens, Cors-y-wlad (Dolgellau 1898). Roedd Owen Owens yn Gristion o argyhoeddiad ac yn flaenor ond eto roedd ganddo dymer bur wyllt a arweiniai ef i drybini ar adegau. Roedd ganddo arferion pendant iawn - dywedir ei fod yn mynd i'w wely am 8.00pm yn y gaeaf ac am 8.30pm yn yr haf, gan godi am 4.30am yn y gaeaf ac am 4.00am yn yr haf - beth roedd yn llwyddo i'w wneud am 4.30 yn y gaeaf ar lethrau Bwlch Mawr sy'n fater arall. Cofnodwyd nifer o'i ddywediadau ffraeth a phert ac edrychid arno fel tipyn o oracl yn ei fro.