Ffeiriau Uwchgwyrfai
Cynhaliwyd ffeiriau mewn llawer o'r pentrefi yn y sir, nid yn gymaint fel cyfrwng diddanu fel sydd heddiw, ond fel cyfle i'r trigolion lleol brynu nwyddau nad oedd fel rheol ar gael ond yn y trefi; prynu a gwerthu anifeiliaid; ac (ar ddiwedd y tymor amaethu, tua ail wythnos Tachwedd) fel cyfle i gyflogi gweision a morynion ffermydd (neu i chwilio am waith). Byddai cytundeb am flwyddyn rhwng meistr a gwas fel rheol, a dyma oedd y cyfle i'r naill neu'r llall benderfynu chwilio am was newydd neu le gwell. Ceir ambell i gyfeiriad am rai yn mynd o ffair i ffair i edrych am waith neu i ganfod gwell brisiau am eu hanifeiliaid neu gynnyrch.
Tua diwedd y 19g cynhelid y ffeiriau canlynol yn Uwchgwyrfai (neu ger ei ffiniau):[1] Yn sicr, dyma'r rhai a restrwyd yn Almanac Caergybi ym 1909.[2]
Betws Garmon Medi 17
Clynnog Fawr Mai 12, Tachwedd 10 (ffair gyflogi)
Llanllyfni Ebrill 11, Gorffennaf 6, Awst 11, Medi 19, Hydref 20
Pen-y-groes Mai 21, Mehefin 27, Awst 11, Medi 22, Tachwedd 8 (ffair gyflogi)
Y Bontnewydd Mai 9, Tachwedd 7 (ffair gyflogi)
Caernarfon Y Sadwrn cyntaf yn Ionawr, yr ail Sadwrn yn Chwefror, Mawrth 4, Ebrill 10, y Sadwrn cyntaf ym Mai, Mai 15, Mehefin 26, Awst 12, Medi 23, Tachwedd 9 a 15, y Gwener a'r Sadwrn cyntaf ym mis Rhagfyr
Y Ffôr Chwefror 20, Ebrill 12, Medi 10, Hydref 21, y dydd Iau cyn dydd Gwener cyntaf mis Rhagfyr - y rhain i gyd yn ffeiriau gwerthu ceffylau, gwartheg a defaid.
Bryncir Ebrill 30
Garn Dolbenmaen Ebrill 8, Medi 30
Os oedd y dyddiadau hyn yn digwydd syrthio ar ddydd Sul, cynhelid y ffair ar y diwrnod cyn neu wedi'r Saboth. Erbyn hyn, yr unig ffair draddodiadol a gynhelir o fewn ffiniau'r cwmwd yw Ffair Llanllyfni a gynhelir ar yr hen ddyddiad, Gorffennaf 6.