Ellis W. Davies

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Cyfreithiwr a gwleidydd Rhyddfrydol Cymreig oedd Ellis William Davies (1871 – 1939). Yn ddiweddarach bu'n aelod o'r Blaid Lafur am gyfnod byr. Ym 1906 fe ddilynodd John Bryn Roberts fel aelod seneddol dros etholaeth Eifion, sef yr etholaeth yr oedd Uwchgwyrfai yn rhan ohoni ar y pryd.

Ganed ef yng Ngerlan, Bethesda, yn fab i David Davies, swyddog yn y chwarel. Addysgwyd ef yn Ngholeg Lerpwl, a bu'n gweithio fel clerc yn Wrecsam a Sheffield cyn dod yn gyfreithiwr ym 1899. Agorodd swyddfa cyfreithiwr yng Nghaernarfon lle bu'n byw am y gweddill o'i fywyd. Mae'r cwmni a sefydlodd, Ellis-Davies, yn parhau hyd heddiw.

Daeth yn Aelod Seneddol ym 1906, pan ymddeolodd John Bryn Roberts, oedd yn dal sedd Eifion ar y pryd, ar ei benodiad yn farnwr. Etholwyd Davies yn ddiwrthwynebiad, a daliodd y sedd hyd 1918. Roedd yn feirniadol o lywodraeth David Lloyd George yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, gan ei hystyried yn rhy ryfelgar. Collodd etholiad 1918, ond dychwelodd i'r Senedd fel Aelod Seneddol dros etholaeth Dinbych ym 1923. Ymddiswyddodd oherwydd afiechyd ym 1929. Ymunodd â'r Blaid Lafur ym 1936, ond gadawodd y blaid honno ym 1939 oherwydd ei pholisi tramor. Cefnogai Davies bolisi Neville Chamberlain o geisio sicrhau heddwch trwy drafodaeth.[1]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. Erthygl Wicipedia am Ellis Davies, [1], cyrchwyd 12.10.2021