Eisteddfod Pen-y-groes 1871
Cynhaliwyd Eisteddfod ynm Mhenygroes fis Ebrill 1871 ar raddfa lawer mwy na'r eisteddfodau arferol a gynhelid mewn capeli. Roedd pafiliwn canfas wedi ei godi gyda lle i ryw 4000 o bobl. Denwyd cynulleidfaoedd mawrion trwy'r dydd,. a gorfennwyd trwy gynnal cyngerdd gyda'r nos. Bu nifer o gystadleuwyr pur amlwg yn cael eu henwi yn yr adroddiadau. Llwyddwyd i sicrhau bod yna lywyddion ac arweinwyr safonol iawn hefyd. Dichon na ellid gwneud yn well na dyfynnu'r adroddiad am yr eisteddfod nodedig hon, sef adroddiad a ymddangosodd yn Y Goleuad[1]:
EISTEDDFOD PENYGROES Cynhaliwyd yr eisteddfod hon ddydd Llun diweddaf, o dan amgylchiadau lled ffafriol, gan fod yr hin yr hyn y gellid ddymuno; y dydd at ryddid y cyhoedd i fyned i'r man a fynent, a'r pavillion wedi ei gosod i fyny yn y modd mwyaf chwaethus a chyfleus feI ag i gynal oddeutu 4,000, fel rhwng pobpeth yr oedd y cynulliad yn y prydnawn a'r nos tuhwnt i'n disgwyliad.
CYFARFOD DEG O'R GLOCH. Y llywydd ydoedd H. Pugh, Ysw., yr hwn wrth agor y cyfarfod, ar ol canig gan gôr Talysarn, a ddywedai mai dyma yr eisteddfod gyntaf ar raddfa eang fel hyn a gynhaliwyd yn Penygroes; a'i ddymuniad ef ydoedd ar iddi fod yn hollol lwyddianus. Dywedai fod yr eisteddfodau wedi bod mewn ymarferiad gan y Cymry er's oesau. Yn y fan acw, dywedai, gwelaf yn argraffedig “Gwell dysg na golud”; ac mae y ffaith fod pobl Penygroes, a'r Cymry yn gyffredinol, wedi ac yn bod mor ymlynol wrth y sefydliad hwn, yn dangos yn eglur eu bod yn penderfynu ymberffeithio yn yr hyn na fedr golud ei brynu. Yr oedd ef (Mir. Pugh) o'r farn fod mwy o les cyffredinol i'r werin yn deilliaw o eisteddfodau fel hyn, mwy lleol, na'r un fawr Genedlaethol, ac yr atebai yr un Genedlaethol y diben lawn cystal unwaith bob tair blynedd. Yn nesaf cafwyd anerchiadau gan y beirdd, sef Llwynog Llwyfo, a Llwydlas. Cystadleuaeth datgana "Ho, ho, dacw y Ian!" Dau yn cystadlu. Buddugol, Mr. O. M. Jones, Rhostryfan, yr hwn a arwisgwyd gan Mrs. Williams, Glanbeuno. Beirniadaeth gan Mr. Williams, Nantlle, ar y darlun, “Y bugail Cymreig a'i gi". BuddugoI - Miss Williams, Brynaera, sef yr unig ymgeisydd, cynyrch yr hon a ganmolid yn fawr. Canig, “Yr Haf", gan gôr Saron. Cystadleuaeth ar yr Harmonium - tri yn cystadlu. Buddugol - Mr. Richard Thomas, Penygroes. Beirniadaeth y Parch. Owen Jones, Llandudno, ar y traethodau ar “Hynafiaethau, &C., Nant Nantlle". Buddugol - y Parch. W. Ambrose, Talysarn. Can gan Mynyddog, “Hen Gymru fach i mi”. Beirniadaeth Gwilym Gwent ar y dôn gynulleidfaol. Saith mewn llaw. Buddugol - Alaw Llwyd; arwisgwyd ef gan Mrs. Williams, Brynaera. Canig gan gôr Talysarn. Beirniadaeth y bryddest ar y “Fynwent”. Dau ddaeth i law. Buddugol - Parch. J. Davies, Penygroes. Cystadleuaeth datganu y “Fwyalchen”. Pump yn cystadlu. Yr oreu Miss Catherine Hughes, Ffridd. Canig gan gôr Saron.
DAU O'R GLOCH. Cadeirydd, H. Pugh, Ysw. Arweinydd, Mynyddog. Agorwyd y cyfarfod drwy anerchiad gan H. Owen, Ysw., Llundain, yr hwn a ddywedai fod yn hyfrydwch ganddo fod yn bresenol, a gweled y fath olwg ddymunol unwaith yn rhagor ar yr eisteddfod Gymreig. Wrth gyfeirio at yr eisteddfod Genedlaethol, dywedai ei bod wedi myned yn fethiant oblegid goruchwyliaeth ddiffygiol. Er hyny nid oedd ef yn meddwl ei bod wedi hollol ddiflanu. Yr oedd ganddo hyder y gwelir hi eto yn codi ei phen, ac yn meddianu ei safle uchel gyntefig. Yr hyn sydd yn rhwystr i'r olwyn droi, meddai, ydyw y diffyg arianol. Y mae arnom gywilydd dangos ein gwyneb, meddai, hyd nes talu yr oll. Yr oedd llawer wedi cyfranu yn hael eisoes, ac yr oedd ef (Mr. Owen) wedi talu un 50p., a byddai yn barod i wneyd yr un peth eto ond i eraill wneyd osgo yn yr un cyfeiriad - (cymeradwyaeth). Yna aeth y boneddwr ymlaen i nodi engreifftiau o lwyddiant yr Eisteddfod yn ei hamcan. un o ba rai ydoedd am un gŵr ieuanc a fagwyd ar ei bronau, ac a aeth i efrydu i Athrofa Cambridge, lle yr enillodd ysgoloriaeth gwerth 300p.; aeth oddiyno i Leipsic, Ile y mae yn enill tir, ac yn sicr o ddyfod yn gredit mawr i'n cenedl, a'i sefydliad cenedlaethol. Anerchiadau barddonol gan Llwynog Llwyfo, Twm Stiniog, ac Aiafon. Canig gan gôr Saron. Beirniadaeth Mrs. Evans, Penygroes, ar yr Hosanau. Daeth un-pâr-ar-bymtheg i law. Buddugol - Naomi, a Hen Ferch, y rhai a ymddangosant yn yr person, sef Ellen Jones, a dyfarnwyd y wobr arall i Jane Lewis, Cefn Tryfan. Cystadleuaeth datganu “Y Chwaer a’r Brawd”. Un parti a ddaeth ymlaen, a chafodd y wobr, sef Mr. W. Francis, a Mair Alaw. Canig, “Yr Haf," gan gôr Llanberis. Beirniadaeth Ap Fychan ar yr Englynion i r Cûn Man-hollt. Daeth pedwar i law. Buddugol - Mr. Morris Williams, Coetmor, Talysarn. Beirniadaeth ar y Traethodau ar Addysg yn y pedwar plwyf, &c. Buddugol - Mr. J. Owen Ellis, Talysarn. Cân gan Mynyddog. Beirniadaeth y Crysau Meinion -10 mewn llaw. Buddugol - Mrs. Evans, Penygroes; 2 Miss Catherine Jones, Cae doctor bach, Llandwrog; 3 Mrs. Laura Parry, Llanllyfni. Cân gan Glan Padarn. Beirniadaeth Ap Fychan ar yr Awdl Goffadwriaethol am y diweddar Dewi Arfon. Un ddaeth i law, sef eiddo Morwyllt, Llangefni, yr hwn a gynrychiolwyd gan Mr. W. Roberts, Port Dinorwic, a chafodd y wobr. Beirniadaeth Mynyddog Duchan Gerdd “Yr Heol gwedi Noswyl”. Un i law, sef eiddo Alafon, Llandwrog, a chafodd y wobr. Beirniadaeth Ap Fychan ar y Traethodau, "Gallu y meddwl dynol”. Tri ddaeth i law. Buddugol - Mr. H. Jones, Tyddyn Difyr, Mynydd y Cilgwyn. Canig gan gôr Talysarn. Beirniadaeth yr Englynion ar “Seren y Gogledd" - 20 mewn llaw. Buddugol - Alafon. Beirniadaeth y cynllun goreu o dŷ gweithiwr. Rhanwyd y wobr rhwng Mr. John Thomas, a Mr. Hugh Jones, Rhostryfan. Cystadleuaeth Gorawl, “Mae'r nos yn dod”. Tri chôr yn cystadlu, sef Saron, Talysarn, a Llanberis. Ymdrech galed oedd hon rhwng y ddwy olaf; ond côr Llanberis, wedi ail ganu, a enillodd. Beirniadaeth Ab Fychan a Nicander ar destyn y gadair, sef Awdl ar “Gormes”. Dau ddaeth i law, ond yn annheilwng o'r wobr. Y CYNGERDD. Cynhaliwyd cyngerdd yn yr hwyr, o dan lywyddiaeth J. Williamsi, Ysw., Glanbeuno. Yr oedd y darnau a ganwyd o'r math mwyaf poblogaidd, ac yn cael eu derbyn gyda'r brwdfrydedd mwyaf. Trodd y cyngerdd hwn, a'r holl eisteddfod allan yn llwyddiant perffaith mewn ystyr arianol yn gystal a llenyddol.
Serch y nifer a oedd wedi mynychu'r Eisteddfod hon, difyr yw sylwi mai braidd yn brin oedd y cystadleuwyr ar sawl gystadleuaeth. Ymysg y beirdd, yr unig gystadleuaeth i ddenu nifer sylweddol oedd yr englyn - tystiolaeth fod y mesur caeth hwn yn dal ei dir yn gadarn yn y dyffryn. Sylwer hefyd ar y cystadlaethau ar gyfer y rhai llai llenyddol neu berfformiadol eu tueddiadau: gwnîo crys, arlunio a hyd yn oed cynllunio tŷ. Gosodwyd pwys, mae'n amlwg, ar anerchiadau y llywyddion ac ar wrando ar y beirniadaethau i gyd, a chafwyd ambell i saib ar gyfer perfformiad cerddorol nad oedd yn rhan o gystadleuaeth..
Cyfeiriadau
- ↑ YGoleuad, 15.4.1871, t.9