Croesfan Glynllifon

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Roedd Croesfan Glynllifon yn un o ddim ond tair croesfan (neu level crossing) a weithid gan staff y rheilffordd, ar wahân i rai gerllaw gorsafoedd ar y lein o Gaernarfon i Afon Wen ac o fewn ffiniau Uwchgwyrfai. Roedd y groesfan tua 3/4 milltir o orsaf y Groeslon a 1/4 milltir ar ôl pasio Seidin Tudor. Fe'i gelwid fel rheol yn 'Crosin Glynllifon'. Pwrpas y groesfan oedd caniatáu i gerbydau groesi'r lein o'r lôn bost er mwyn mynd trwy borth yn Wal Glynllifon i gyrraedd y parc y tu draw i'r wal. Roedd tŷ ar gyfer ceidwad y groesfan gerllaw; fe'i dymchwelwyd tua throad y ganrif. Roedd y tŷ hwn yn debyg iawn o ran pensaernïaeth i'r tai a godwyd gerllaw croesfannau Graeanog a Glan-rhyd.