Seidin Tudor

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Craen a safle hen Seidin Tudor

Roedd Seidin Tudor yn seidin breifat filltir ochr Pen-y-groes i orsaf Y Groeslon. Ei hunig ddiben oedd gwasanaethu Gwaith Llechi Inigo Jones neu'r 'Tudor Slate Works'. Dim ond trenau a redai i gyfeiriad Pen-y-groes oedd yn gallu gollwng neu godi tryciau o'r seidin. Roedd llidiart yn cau'r seidin oddi wrth y brif lein. Roedd craen yn cael ei ddefnyddio i godi slabiau llechi oddi ar y tryciau; mae ei olion i'w weld hyd heddiw o Lôn Eifion yn iard Inigo Jones.