Cored Gwyrfai

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Mae Cored Gwyrfai yn hen gored sydd yn ymestyn o draeth ddwyreiniol Harbwr Llanfaglan mewn siâp "L" ar draws cwrs Afon Gwyrfai ar ei ffordd ar drai i Afon Menai. Mae ei holion i'w gweld o'r awyr hyd heddiw ond mae hi'n hen iawn. Eiddo Clas ac Abaty Sant Beuno ydoedd yn y Canol Oesoedd, ac mae sôn amdani yn Siarter Eglwys Clynnog Fawr a ysgrifennwyd tua 1470. Nodir yn y ddogfen honno mai rhodd gan ŵr o'r enw Tridog ydoedd.

Pwrpas y gored oedd dal pysgod pan oedd yr afon ar drai; byddai rhwydi neu blethwaith o ganghennau fyddai ar ben y seiliau o garreg, ac yn y rheiny y delid y pysgod.