Capel Tŷ'n Lôn (BA), Llanllyfni

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Sylwer: ni ddylid cymysgu rhwng y capel hwn a Chapel Tŷ'nlôn, Llandwrog o eiddo'r Wesleiaid.

Unig achos y Bedyddwyr Albanaidd yn Uwchgwyrfai oedd yr eglwys a gyfarfu yng Nghapel Tŷ'n Lôn, Llanllyfni. Enw arall ar y Bedyddwyr hyn, gan y rhai na rannai eu daliadau, oedd Bedyddwyr Sandemanaidd, a hynny ar ôl y diwinydd ffwndamentalaidd eithafol Robert Sandeman, er iddynt wrthod rhai o'i syniadau mwyaf eithafol.

Roedd y Parch John Jones, Ramoth, Llanfrothen yn brif arweinydd a hyrwyddwr yr enwad yng Nghymru, y gellid ei ystyried yn Fedyddiwr hynod ffwndamentalaidd; fe chwaraeodd ran ym mywyd y capel hwn hefyd. Roedd Bedyddwyr Llanllyfni wedi ffraeo dros yr hyn a gredent ym 1798, ac o hynny ymlaen roedd dau gapel gan fedyddwyr yn y pentref; un yng nghapel Tŷ'n Lôn a'r llall yn y man mewn capel newydd, Capel Ebeneser.

Mae'r canlynol, sydd yn manylu ar yr hanes, yn erthygl gan O.P. Huws, Nebo, ac fe'i hatgynhyrchir yma gyda'i ganiatâd:

Erbyn heddiw ychydig iawn o bobl sydd yn sylweddoli fod y darn o dir sydd wedi ei guddio tu ôl i wal uchel, gyferbyn â Chapel Salem yn Llanllyfni, wedi chwarae rhan bwysig iawn mewn hanes crefydd yng Ngogledd Cymru. Dyma leoliad Mynwent Bara Chaws. ‘Roedd y fynwent ynghyd â Chapel Ty’lon yn ganolfan bwysig iawn yn hanes datblygiad y Bedyddwyr Albanaidd yng Ngogledd Cymru.
Adeiladwyd Capel Ty’lon yn 1790. Yn ôl cofiant y diweddar John Roberts, Pontlyfni gan y Parch D. Davies ( Dewi Eden) a chyhoeddwyd yn 1909 mae o'n datgan “Yr oedd i'r Bedyddwyr Albanaidd achos yn Llanllyfni: eu capel a'u mynwent oedd mewn man hynod gyfleus o'r enw Ty’Lon”
Dyma ddisgrifiad y diweddar Owen Davies Arthog o’r Capel. “Lle bach cyffyrddus iawn, a'i lawr o bridd wedi ei orchuddio efo charped o wellt, gyda phlatiau eirch yn addurno'r waliau.”
Credir fod achos y Bedyddwyr wedi dechrau yn Llanllyfni ym 1787, ac yn ôl y son roedd Capel Ty’Lon yn wreiddiol yn gapel y Bedyddwyr, ond fe ddatblygodd i fod yn fan addoli pwysicach wedi iddo troi i fod yn Gapel i Fedyddwyr Albanaidd yn dilyn rhwyg enfawr ym 1798.
Daethpwyd i adnabod y fynwent fel Mynwent Bara Caws, ac fe elwid yr addolwyr yn Fedyddwyr “Bara Chaws” - hynny oherwydd yr arferiad o deithio o bell gan ddod â bwyd gyda nhw i'r Capel i addoli. Heddiw yn y fynwent safai hen garreg fedd lechan ac arno’r geiriau:
"Here lyeth the body of Catherine Jones, she departed this world July 1700 aged 83. Also Madeline Rog Died March 1729 aged 61."
Hefyd mae enw un Roger Cowal, ond nid yw’n hawdd darllen y geiriau i gofnodi manylion ei ddyddiadau. Mae hynny’n awgrymu’n bendant bod defnydd i’r safle fel man claddu ymhell cyn 1790.
Cyn diwedd y flwyddyn 1800 'roedd achos y Bedyddwyr wedi ei rannu yma yn Llanllyfni a hefyd trwy'r rhan fwyaf o Ogledd Cymru, a hynny oherwydd yr egwyddorion diwinyddol a arddelwyd gan y Parch John Richard Jones, Ramoth ym mhlwyf Llanfrothen.
'Roedd y Parch John R. Jones yn ddyn dysgedig iawn, yn hyddysg mewn amrywiol ieithoedd, yn bregethwr ac yn ddiwinydd rhagorol, ac yn bleidiwr di-ildio i ryw osodiadau nad oedd ei oes a'i enwad yn aeddfed i'w dderbyn. Cofleidiodd olyniadau diwinydd Albanaidd o'r enw Andrew McClean.
Dygodd John Jones elfennau anghydfod i mewn i'r Eglwysi, ac ymraniad a rhwygiadau a ddilynodd. Gadawodd John Jones y Bedyddwyr am byth i sefydlu'r “Bedyddwyr Albanaidd yng Ngwynedd ” ym 1798. Er mae tystiolaeth i'r Bedyddwyr Albanaidd fodoli eisoes mewn rhai mannau yn y Gogledd ychydig cyn hynny, - erbyn 1807 roedd 350 o aelodau mewn llefydd fel Harlech, Ffestiniog, a chyn belled â Rhosllannerchrugog a Glyn Ceiriog, gyda John Jones yng ngofal y cyfan.
Yn Llanllyfni gorfodwyd y lleiafrif, nad oeddynt yn cytuno gyda'r athroniaeth newydd, ac a lynent wrth ddaliadau'r hen Fedyddwyr i ymadael, gan gwrdd mewn tai ei gilydd am flynyddoedd cyn adeiladu Capel newydd yn agos i'r pentref ar dir yn y Felin Gerrig ym 1826 - fe helaethwyd y Capel yn 1858. (Gweler yng Nghof y Cwmwd o dan Capel Ebeneser (B), Llanllyfni.
Datblygodd capel bach Tŷ’n Lôn, Llanllyfni yn galon i'r Bedyddwyr Albanaidd ac yn ei anterth deuai'r saint i addoli yno o Harlech, Penrhyndeudraeth, Blaenau Ffestiniog, Trefor, a Chaernarfon. Yn cyrraedd yn y bore arhosant trwy'r dydd, a chaewyd rhan o'r capel i ffwrdd, er mwyn darparu lle iddynt fwyta. Arferai cyfeillion a chymdogion cyfagos berwi dŵr iddynt gael te, gan hefyd ddarparu cyflenwad o lestri addas.
Fe'i gelwid gan eu gelynion yn Sandemaniaid oherwydd y tebygolrwydd yn nifer o'u hymarferion i grefydd Robert Sandeman - nifer sylweddol o flaenoriaid, cymundeb pob Saboth, y wledd Cariad, y gusan sanctaidd, a golchi traed a.y.b. Ond mi roedd John Jones yn gwadu ac yn gwrthwynebu'r honiadau yn ffyrnig, gan ddadlau bod Robert Sandeman yn cefnogi bedyddio plant, a hynny yn gwbl groes i'r Ysgrythur.
Bu'r achos yn Nhŷ'n Lôn, Llanllyfni dan ofal Edmwnd Francis un o Gaernarfon yn wreiddiol, a wasanaethodd yno yn ogystal â Llanllyfni am gyfnod o 30 mlynedd. Bu farw ar 5ed o Ragfyr 1831 yn 63 oed, ac yn ôl y wybodaeth ar ei garreg fedd bu ei wasanaeth i Lanllyfni am ei gyfnod yn gwbl ddi-dâl.
Disgrifiwyd Harlech ac ardaloedd eraill o Feirionydd fel Jerwsalem y Bedyddwyr Albanaidd yng Ngogledd Cymru yn y cyfnod hwnnw, ac wedi marw Edmwnd Francis daeth Humphrey Humphreys, brodor o Harlech, i weinyddu am gyfnod byr iawn cyn symud i Gaernarfon. Bu farw Humphrey Humphreys ym 1862 yn ddim ond 27 oed, a chafodd ei gladdu ym mynwent Bara Chaws, Llanllyfni.
Yn dilyn ymadawiad Humphrey Humphreys i Gaernarfon daeth pregethwr ifanc o'r enw John Roberts o Ffestiniog, oedd hefyd yn saer maen, i ofalu am yr Eglwys yn Llanllyfni.Yn fuan ar ôl iddo symud i Lanllyfni fe briododd John Roberts gyda Ellen Williams, merch David a Mary Williams Fferm yr Ynys Pontlyfni. A dyna mae'n debyg cadarnhau'r cysylltiad rhwng mynwent Bara Chaws a theulu'r Ynys, gan fod y teulu'n aelodau selog yn Nhŷ'n Lôn. Ar ôl priodi aeth John Roberts a'i briod i gartrefu yng Nghefnfaes lyn, Llanllyfni.
Gwan iawn oedd yr achos yn Nhŷ'n Lôn erbyn 1836, ac nid oedd y rhagolygon yn dda, a hynny gan fod yr Eglwys gan y Bedyddwyr Neilltuol yn y Felin Gerrig yn blodeuo a chryfhau dan weinidogaeth yr enwog Robert Jones Llanllyfni.
Mewn gwirionedd dim ond 16 aelod oedd i achos y Bedyddwyr Albanaidd yn Nhŷ Lôn, Llanllyfni erbyn 1836, a'r rheswm am hynny yn ôl John Jones ei hun oedd “Bod eu ffydd yn llawer rhy syml, anghyffyrddus, a hunan wadol i ennill llawer o ddilynwyr”. Nid oedd y Bedyddwyr Albanaidd yn grefydd boblogaidd yng Ngogledd Cymru erbyn hynny.
Erbyn y flwyddyn 1865 dim ond 3 aelod oedd yn aros i addoli yng Nghapel bach Tŷ'n Lôn - brawd a chwaer William a Marsli Hughes, dau onest a duwiol yn ôl y sôn, a David Jones, mab i'r Doctor David Thomas Jones, (Doctor Mynydd) yr herbalydd enwog arferai byw yn Hafod yr Esgob Nebo, neu Mynydd Llanllyfni fel y’i gelwid pryd hynny.
Penderfynodd John Roberts y byddai'n ddoeth i'r Bedyddwyr Albanaidd ymuno â'r Bedyddwyr Neilltuol yn y Felin Gerrig, ond fe gafodd gryn feirniadaeth am ei benderfyniad, ond ymuno ddaru nhw, ac aeth yr Eglwys honno o nerth i nerth.[1]

Cyfeiriadau

  1. Erthygl ar wefan Dyffryn Nantlle [1], trwy ganiatâd yr awdur, O.P. Huws