Capel Lleuar

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Mae Capel Lleuar yn enw ar gwt hirsgwar ar ben bryncyn i'r de o dŷ Lleuar Fawr. Erbyn hyn nid yw'n ddim ond pentwr o gerrig tua 7 metr o hyd a 5 metr o led. Nid yw diben nac oedran yr adeilad yn glir, ond cafwyd hyd i garreg gerllaw a allai fod yn bowlen i ddal dŵr wedi'i gysegru. Capel Lleuar yw'r enw a ddefnyddir yn lleol.[1]

Honnid gan W.R. Ambrose yn ei lyfr Nant Nantlle mai capel a godwyd at ddefnydd teulu Lleuar ydoedd yn wreiddiol. Saif mewn cae o'r enw Cae'r Capel, ond efallai yr enwyd y cae ar ôl yr adeilad. Fodd bynnag, mae Ambrose yn dweud fod ffermydd Lleuar Fawr a Lleuar Fach wedi eu rhyddhau o'r ddyletswydd i dalu'r Degwm i ficer Clynnog Fawr a hynny er mwyn iddynt gynnal y capel.[2]

Cyfeiriadau

  1. Comisiwn Henebion Cymru, ‘’Caernarvonshire’’, Cyf.2: Central (Llundain, 1960), t.54
  2. W.R. Ambrose, ‘’Nant Nantlle’’ (Pen-y-groes, 1872), t.21