Capel Bwlch-y-llyn (A)

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Saif Capel Bwlch-y-llyn yn y pentrefan o'r un enw ar gyrion Y Fron, plwyf Llandwrog. Mae'n nodedig am iddo gael ei godi mor ddiweddar â 1907. Cafodd ei ddylunio gan bensaer (yn hytrach nag adeiladydd lleol). Defnyddiwyd llawer o frics coch ar du blaen y capel, sydd yn taro dyn yn od mewn ardal lle mae'r garreg las ym mhob man ac yn rhad. Oherwydd hyn mae'n gwneud datganiad clir o'r gwahaniaeth enwadol rhyngddo â chapel arall yr ardal, sef Capel Cesarea (MC), Y Fron.

Caewyd y capel ar ôl oes fer o lai na chan mlynedd. Erbyn 2011 yr oedd yn cael ei ddefnyddio fel tŷ. Bu helynt fawr yno y flwyddyn honno gan fod yr heddlu wedi canfod llawer iawn o offer trydanol wedi'i ddwyn yn yr adeilad. Boed hynny fel y bo, mae'r adeilad yn parhau heb fawr o newid allanol ac yn nodwedd drawiadol yn yr ardal.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau