Ben Jones

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Bu Ben Jones yn arweinydd Seindorf Dyffryn Nantlle yn ystod ei hail oes aur o 1898 hyd 1927. Chwaraeai'r iwffoniwm yn y band cyn hynny, dan arweiniad Tom Sarah (tad y gantores Mary King Sarah o Dal-y-sarn). Roedd yn gerddor rhagorol ac yn 'ddyn hardd, o gorff cryf'. Gallai arwain y band â'i law chwith a chanu'r iwffoniwm â'i law dde yr un pryd!

Ar ei ymddeoliad ym 1927 trefnodd y seindorf dysteb gyhoeddus iddo.

Yn ei lyfr Canrif y Chwarelwr mae Emyr Jones yn adrodd yr hanes hyfryd hwn :

Cofiaf ornest galed ym Mhafiliwn Caernarfon yn 1934, a Nantlle'n canu'r darn gafaelgar hwnnw 'The Crusaders' ... ac yn curo Band y Rhyl o un marc. Yn ôl yr arfer galwyd ar y band buddugol i'r llwyfan i dderbyn eu cymeradwyaeth ac i ganu darn o'u dewisiad eu hunain. Daeth distawrwydd dros yr holl bafiliwn pan gyhoeddwyd mai dymuniad y band, ynghanol eu llawenydd o ennill, oedd canu darn er cof am eu diweddar arweinydd, Ben Jones, a fuasai farw rai misoedd cyn yr ŵyl. Yr oedd llawer o'r dorf yn eu dagrau yn ystod y perfformiad hwnnw.

Wyres i Ben Jones yw'r gantores o Dal-y-sarn, Iona Boggie (Iona Jones cyn iddi briodi).