Arfon (bwrdeistref)
Neidio i'r panel llywio
Neidio i'r bar chwilio
Arfon yw enw ardal llywodraeth leol a ddaeth i rym ym 1974, dan enw Cyngor Bwrdeistref Arfon. Tiriogaeth y cyngor hwnnw oedd o'r ffin rhwng cymunedau Abergwyngregyn a Llanfairfechan a'r ffin rhwng cymunedau Llanllyfni a Chlynnog-fawr (gan rannu'r Uwchgwyrfai hanesyddol rhwng Arfon ac ardal newydd Dwyfor. Fe gadwyd yr un ardal fel rhaniad gweinyddol Cyngor Gwynedd o 1996 ymlaen.