Afon Tŷ Coch
Neidio i'r panel llywio
Neidio i'r bar chwilio
Afon Tŷ Coch yw'r afonig sydd yn llifo allan o Lynnoedd Cwm Silyn ac yn anelu ar draws Ffridd Faen yn syth tua'r gogledd cyn pasio i'r dwyrain o Tŷ Coch sydd ar y ffordd newydd rhwng Tal-y-sarn a Nantlle. Arferai redeg i mewn i Llyn Nantlle Isaf ond heddiw yn ymuno ag Afon Llyfni.[1]
Defnyddid dŵr o'r afon am gyfnod hir yn y 19-20gg. i droi peiriannau Chwarel Gwernor a bu'r hawliau i'r dŵr yn cael eu trafod mewn achos ym Mrawdlys Caer rhwng y chwarel honno a Chwarel Tŷ'n-y-weirglodd.[2]
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma