Afon Wen (Llandwrog)
(Ailgyfeiriad o Afon Ffynnon Wen)
Afon Wen yw enw'r afon fechan sydd yn codi yn y corsydd gerllaw Cae Haidd ger Capel-y-bryn ac yn llifo ar draws y caeau nes uno ag Afon Carrog ychydig i'r dwyrain o fferm Traean yn y Dolydd. Arferai gyflenwi cronfa ddŵr Ffynnon Wen a godwyd i gyflenwi'r ardal gyda dŵr yn nechrau'r 20g.[1] Mewn mannau eraill gelwir yr afon fach hon yn Afon Ffynnon Wen.[2]
Ni ddylid ei chymysgu gyda'r Afon Wen sydd yn rhedeg o ardal Bwlch Derwin i gyfeiriad y de heibio i Chwilog.