Tal-y-mignedd Isaf
Mae Tal-y-mignedd Isaf yn fferm fawr ar waelod rhan uchaf Dyffryn Nantlle gyda ffriddoedd eang ar lethrau gogleddol Cwm Ffynnon a Mynydd Tal-y-mignedd. Mae fferm Drws-y-coed i'r dwyrain a fferm Ffridd neu Ffridd-bala-deulyn i'r gorllewin. Mae Afon Craig-las yn ffurfio'r ffin rhwng Tal-y-mignedd Isaf a Ffridd.
Mae dyddiad 1712 a'r ddwy lythyren R G, uwchben y drws ar un o adeiladau'r fferm. Credir mai RG oedd Richard Garnons y perchennog ar y pryd, ac a fu yn byw hefyd yn fferm Pant Du ger Penygroes. Ym 1800 roedd yn eiddo i Richard Garnons arall, fel rhan o Ystad Pant Du.
Parhaodd yn rhan o eiddo teulu Garnons tua 1840 pan y cynhaliwyd arolwg o diroedd y plwyf er mwyn pennu rhent degwm yn lle'r nwyddau a chynnyrch yr arferid gorfod eu cyflwyno fel "degwm" neu gyfraniad at yr eglwys.
Ym 1840, Owen Jones oedd y tenant, ac roedd y tir yn ymestyn dros ryw 680 acer, gyda'r rhent degwm oedd yn daladwy ar y fferm yn (£7.15.10c. y flwyddyn). Dyma enwau'r caeau a restrwyd: Cae'r Groes, Gweirglodd y Gors, Rhos Isaf, Gweirglodd y Bont, Cae Maes Isaf, Rhos Uchaf, Gweirglodd y Brwyn, Tyn Cynnau, Cae Canol, Wern Wafladd (?), Cae'r Foty, Buarth Graig, Cae Newydd, Bryn Llwyd, Dol tan y graig, Graig Talcen, Gallt Garth y Blithion, Buarth, Cefnfaes Uchaf, Cefnfaes Mawr a Chae Bach.[1]
Hanai Owen Jones o Dyddyn Engan, Treflys, Eifionydd, a'i wraig Ann Owen o Nyffryn ym Mhen Llŷn. Cafodd eu mab, Hugh Jones ei eni yn y Benarth Fawr, Chwilog ym 1829, y flwyddyn cyn i'r teulu symud i gymryd tenantiaeth Tal-y-mignedd Isaf. Trwy'r gŵr hwnnw, sef Hugh y mab, y mae perchnogion presennol Tal-y-mignedd yn ddisgynyddion o linach yr enwog Robert Hughes, Uwchlaw'rffynnon. Priododd Hugh Jones â chwaer Robert Hughes, sef Catherine neu Catrin Hughes, Moelfre Mawr, Llanaelhaearn. Pasiwyd fferm Tal-y-mignedd Isaf yn y man i ddwylo Hugh Jones. Cafodd Hugh a Catherine un mab, sef Hugh Jones arall.
Roedd yr Hugh Jones yma, a elwid yn arferol yn y gymdogaeth yn "Hugh Jones, Panama", wedi gweithio ar reilffordd ym Mhanama yn ystod 1850-52. Roedd yn un oedd yn flaenllaw iawn yn achos Eglwys Annibynnol Drws-y-Coed, ac yn enwedig am ei sêl a'i gyfraniad brwdfrydig i ail adeiladu'r Capel presennol ar ôl i'r cyn gapel gael ei ddinistrio gan y maen mawr, a ddisgynodd arno o Fynydd Meredydd ym 1882. Mae'r teulu wedi rhoddi cofeb ar y maen i gofio'r digwyddiad ar ymyl y brif ffordd lle safai'r hen gapel a godwyd ym 1836. Gweithiodd Hugh Jones yn galed at godi capel newydd. Fo a drafododd gyda sgweier Ystad y Faenol am gael prydles mewn man mwy diogel i godi capel newydd - gan fod â Saesneg bur dda (oherwydd ei arhosiad ym mhanama yn ôl pob tebyg). Fe hefyd a gludodd llawer o'r deunyddiau yn ei drol, gan hyd yn oed deithio gyda'r drol a dau geffyl i Gaer i nôl coed i adeiladu'r capel newydd, ac am sicrhau llechi ar gyfer y to fel rhodd oddi wrth W.A. Darbishire, Plas Baladeulyn, goruchwyliwr Chwarel Pen-yr-orsedd. Byddai hyd yn oed yn cynnig pás i rai yn y trol am geiniog y tro, gyda'r elw'n mynd at gostau'r adeiladu.[2]
Dioddefai Hugh Jones oddi wrth y crydcymalau ac yn y diwedd bu'n rhy llesg i gerdded yn rhwydd i'r capel yn Nrws-y-coed, pellter o ryw filltir. Cerddai'n araf iawn wrth ddwy ffon wrth iddo fynd yn hŷn, ac ar adegau, powliai ei ddau fab yr hen ddyn mwn berfa i'r Capel.