Afon Craig-las

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Mae Afon Craig-las yn un o'r blaen-nentydd bychain yn codi ar lethrau Crib Nantlle sydd yn bwydo Afon Drws-y-coed. Mae'n codi mewn llyn bychan rhwng Cwm Silyn a Mynydd Tal-y-mignedd, ac ar ôl casglu dŵr o nifer o flaen-nentydd eraill, yn rhedeg i'r afon fawr ychydig i'r dwyrain o Lyn Nantlle Uchaf. Dyma ffin ffermydd Tal-y-mignedd Isaf a Ffridd, a'r terfyn rhwng eiddo Ystad y Faenol ac eiddo Richard Garnons ar ochr ddeuheuol Dyffryn Nantlle.[1]. Enw arall ar yr afon a ddefnyddid gan bobl leol oedd Afon Rhydus.[2]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. Map Degwm Plwyf Llanllyfni, ar wefan Mapiau Degwm Cymru, [1]
  2. Thomas Alun Williams, "Afonydd Nantlle", Baladeulyn Ddoe a Heddiw, cyhoeddwyd yn ddigidol yn unig ar wefan Nantlle.com [2]