Tal-y-mignedd Isaf

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 19:49, 18 Rhagfyr 2020 gan Cudyll (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Mae Tal-y-mignedd Isaf yn fferm fawr ar waelod rhan uchaf Dyffryn Nantlle gyda ffriddoedd eang ar lethrau gogleddol Cwm Ffynnon a Mynydd Tal-y-mignedd. Mae fferm Drws-y-coed i'r dwyrain a fferm Ffridd neu Ffridd-bala-deulyn i'r gorllewin. Mae Afon Craig-las yn ffurfio'r ffin rhwng Tal-y-mignedd Isaf a Ffridd.

Mae dyddiad 1712 a'r ddwy lythyren R G, uwchben y drws ar un o adeiladau'r fferm. Credir mai RG oedd Richard Garnons y perchennog ar y pryd, ac a fu yn byw hefyd yn fferm Pant Du ger Penygroes. Ym 1800 roedd yn eiddo i Richard Garnons arall, fel rhan o Ystad Pant Du.

Parhaodd yn rhan o eiddo teulu Garnons tua 1840 pan y cynhaliwyd arolwg o diroedd y plwyf er mwyn pennu rhent degwm yn lle'r nwyddau a chynnyrch yr arferid gorfod eu cyflwyno fel "degwm" neu gyfraniad at yr eglwys.

Ym 1840, Owen Jones oedd y tenant, ac roedd y tir yn ymestyn dros ryw 680 acer, gyda'r rhent degwm oedd yn daladwy ar y fferm yn (£7.15.10c. y flwyddyn). Dyma enwau'r caeau a restrwyd: Cae'r Groes, Gweirglodd y Gors, Rhos Isaf, Gweirglodd y Bont, Cae Maes Isaf, Rhos Uchaf, Gweirglodd y Brwyn, Tyn Cynnau, Cae Canol, Wern Wafladd (?), Cae'r Foty, Buarth Graig, Cae Newydd, Bryn Llwyd, Dol tan y graig, Graig Talcen, Gallt Garth y Blithion, Buarth, Cefnfaes Uchaf, Cefnfaes Mawr a Chae Bach.[1]

Hugh Jones, "Panama"

Y sawl a ddilynnai Owen Jones oedd Hugh Jones, Tal-y-mignedd Isaf, ond nid yw'n eglur ai perthyn i'w gilydd oeddynt. Hanai Hugh JOnes o Dyddyn Engan, Treflys, Eifionydd. Trwy'r gŵr hwnnw y mae perchnogion presennol Tal-y-mignedd yn ddisgynyddion o linach yr enwog Robert Hughes, Uwchlaw'rffynnon. Priododd Hugh Jones â chwaer Robert Hughes, sef Catherine neu Catrin Hughes, Moelfre Mawr, Llanaelhaearn. Fe'u sefydlwyd ar fferm Tal-y-mignedd Isaf, ac fe gawsant un mab, sef Hugh Jones arall.

Roedd yr Hugh Jones yma, a elwid yn arferol yn y gymdogaeth yn "Hugh Jones, Panama", wedi gweithio ar reilffordd ym Mhanama yn ystod 1850-52. Roedd yn un oedd yn flaenllaw iawn yn achos Eglwys Annibynnol Drws-y-Coed, ac yn enwedig am ei sêl a'i gyfraniad brwdfrydig i ail adeiladu'r Capel presennol ar ôl i'r cyn gapel gael ei ddinistrio gan y maen mawr, a ddisgynodd arno o Fynydd Meredydd ym 1882. Mae'r teulu wedi rhoddi cofeb ar y maen i gofio'r digwyddiad ar ymyl y brif ffordd lle safai'r hen gapel a godwyd ym 1836. Gweithiodd Hugh Jones yn galed at godi capel newydd. Fo a drafododd gyda sgweier Ystad y Faenol am gael prydles mewn man mwy diogel i godi capel newydd - gan fod â Saesneg bur dda (oherwydd ei arhosiad ym mhanama yn ôl pob tebyg). Fe hefyd a gludodd llawer o'r deunyddiau yn ei drol, gan hyd yn oed deithio gyda'r drol a dau geffyl i Gaer i nôl coed i adeiladu'r capel newydd, ac am sicrhau llechi ar gyfer y to fel rhodd oddi wrth W.A. Darbishire, Plas Baladeulyn, goruchwyliwr Chwarel Pen-yr-orsedd. Byddai hyd yn oed yn cynnig pás i rai yn y trol am geiniog y tro, gyda'r elw'n mynd at gostau'r adeiladu.[2]

Dioddefai Hugh Jones oddi wrth y crydcymalau ac yn y diwedd bu'n rhy llesg i gerdded yn rhwydd i'r capel yn Nrws-y-coed, pellter o ryw filltir. Cerddai'n araf iawn wrth ddwy ffon wrth iddo fynd yn hŷn, ac ar adegau, powliai ei ddau fab yr hen ddyn mwn berfa i'r Capel.





Cyfeiriadau

  1. LLGC, Map a Rhestr Ddegwm plwyf Llanllyfni [1]
  2. Thomas Alun Williams, "Talymignedd Isaf", yn Baladeulyn Ddoe a Heddiw, cyhoeddwyd yn ddigidol yn unig ar wefan Nantlle.com [2]; gwybodaeth gan aelodau o'r teulu