Tal-y-mignedd Isaf

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 19:32, 18 Rhagfyr 2020 gan Cudyll (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Mae Tal-y-mignedd Isaf yn fferm fawr ar waelod rhan uchaf Dyffryn Nantlle gyda ffriddoedd eang ar lethrau gogleddol Cwm Ffynnon a Mynydd Tal-y-mignedd. Mae fferm Drws-y-coed i'r dwyrain a fferm Ffridd neu Ffridd-bala-deulyn i'r gorllewin. Mae Afon Craig-las yn ffurfio'r ffin rhwng Tal-y-mignedd Isaf a Ffridd.

Mae dyddiad 1712 a'r ddwy lythyren R G, uwchben y drws ar un o adeiladau'r fferm. Credir mai RG oedd Richard Garnons y perchennog ar y pryd, ac a fu yn byw hefyd yn fferm Pant Du ger Penygroes. Ym 1800 roedd yn eiddo i Richard Garnons arall, fel rhan o Ystad Pant Du.

Parhaodd yn rhan o eiddo teulu Garnons tua 1840 pan y cynhaliwyd arolwg o diroedd y plwyf er mwyn pennu rhent degwm yn lle'r nwyddau a chynnyrch yr arferid gorfod eu cyflwyno fel "degwm" neu gyfraniad at yr eglwys.

Ym 1840, Owen Jones oedd y tenant, ac roedd y tir yn ymestyn dros ryw 680 acer, gyda'r rhent degwm oedd yn daladwy ar y fferm yn (£7.15.10c. y flwyddyn). Dyma enwau'r caeau a restrwyd: Cae'r Groes, Gweirglodd y Gors, Rhos Isaf, Gweirglodd y Bont, Cae Maes Isaf, Rhos Uchaf, Gweirglodd y Brwyn, Tyn Cynnau, Cae Canol, Wern Wafladd (?), Cae'r Foty, Buarth Graig, Cae Newydd, Bryn Llwyd, Dol tan y graig, Graig Talcen, Gallt Garth y Blithion, Buarth, Cefnfaes Uchaf, Cefnfaes Mawr a Chae Bach.[1]

Y sawl a ddilynnai Owen Jones oedd Hugh Jones, Tal-y-mignedd Isaf, ond nid yw'n eglur ai perthyn i'w gilydd oeddynt. Hanai Hugh JOnes o Dyddyn Engan, Treflys, Eifionydd. Trwy'r gŵr hwnnw y mae perchnogion presennol Tal-y-mignedd yn ddisgynyddion o linach yr enwog Robert Hughes, Uwchlaw'r Ffynnon. Priododd Hugh Jones â chwaer Robert Hughes, sef Catherine neu Catrin Hughes, Moelfre Mawr, Llanaelhaearn. Fe'u sefydlwyd ar fferm Tal-y-mignedd Isaf, ac fe gawsant un mab, sef Hugh Jones arall.

Roedd yr Hugh Jones yma, a elwid yn arferol yn y gymdogaeth yn "Hugh Jones, Panama", wedi gweithio ar reilffordd ym Mhanama yn ystod 1850-52. Roedd yn un oedd yn flaenllaw iawn yn achos Eglwys Annibynnol Drws-y-Coed, ac yn enwedig am ei sêl a'i gyfraniad brwdfrydig i ail adeiladu'r Capel presennol ar ôl i'r cyn gapel gael ei ddinistrio gan y maen mawr, a ddisgynodd arno o Fynydd Meredydd ym 1882. Mae'r teulu wedi rhoddi cofeb ar y maen i gofio'r digwyddiad ar ymyl y brif ffordd lle safai'r hen gapel a godwyd ym 1836. Gweithiodd Hugh Jones yn galed at godi capel newydd. Fo a drafododd gyda sgweier Ystad y Faenol am gael prydles mewn man mwy diogel i godi capel newydd, a chludodd y deunyddiau yn ei drol, gan hyd yn oed deithio gyda'r drol a dau geffyl i Gaer i nôl coed i adeiladu'r capel newydd, ac am sicrhau llechi ar gyfer y to fel rhodd oddi wrth W A Darbyshire, Plas Baladeulyn, goruchwyliwr Chwarel Pen-yr-orsedd.[2]


Pan chwalwyd HEN Gapel (A) Drwsycoed. Yr Hugh Jones welir yma aeth i Stad y Faenol i ofyn am les ar dir er mwyn codi Capel Newydd, roedd ganddo saesneg pur dda ac yn Fathamategydd. Bu ar un adeg yn gweithio ar y Panama Canal..galwai rhai o yn Hugh Jones Panama..

Aeth ati rhag blaen i symud cerrig a chael cerrig a'i cludo yn ei drol i godi'r Capel Newydd. Gan gynnig lift i rai am geiniog y tro yn y drol gyda'r elw yn mynd at y Capel.

Dioddefai o wrth y crydcymalau ac yn rhy llesg i gerdded i'r Capel yn Nrwsycoed, Ac ar adegau powliai fy nhad a'i frawd yr hen Wron yn y ferfa i'r Capel oedd gryn bellter o Dalymignedd.



Cyfeiriadau

  1. LLGC, Map a Rhestr Ddegwm plwyf Llanllyfni [1]
  2. Thomas Alun Williams, "Talymignedd Isaf", yn Baladeulyn Ddoe a Heddiw, cyhoeddwyd yn ddigidol yn unig ar wefan Nantlle.com [2]