Rhos y Pawl

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 13:03, 14 Hydref 2020 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Mae Rhos y Pawl yn rhan o dir Comin Uwchgwyrfai, rhwng pentrefi Y Fron a Nantlle, ar waelodion Mynydd Mawr neu Fynydd Grug i bobl leol. Mae ffermydd Caeronwy a Chastell Caeronwy'n gorwedd i'r gogledd-orllewin ohoni.

Ceir stori werin ar lafar am Ros y Pawl, sy'n perthyn i ardal Nantlle. Ceir enw Rhos y Pawl mewn chwedl ramantus am ŵr a merch ieuanc a oedd eisiau priodi. Roedd tad y ferch yn anfodlon gyda'r syniad, a dyfeisiodd gynllun i weld fod y mab ifanc yn methu â phrofi ei hun yn gariadfab anaddas i'w ferch.

Mynnodd bod y mab ifanc yn gorfod goroesi noson gyfan yn nhrugaredd elfennau creulon tirwedd Nantlle. Trwy ryw wyrth, llwyddodd y mab hwn oroesi drwy gadw ei hun yn gynnes drwy dorri coed â bwyall, ac edrych ar ffenestr ei gariad, lle yr oedd hithau wedi gosod cannwyll iddo ei weld. Roedd y bore wedi cyrraedd, a'r mab ifanc wedi byw trwy'r noson oer a chafodd y ddau briodi fel y dymunwyd.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Ffynhonnell

Ambrose, W. R. Hynafiaethau, Cofiannau a Hanes Presennol Nant Nantlle (Penygroes, 1872) tud. 53-54