Y Degwm
Y Degwm oedd enw'r nwyddau neu (yn ddiweddarach) yr ardreth a godwyd ar bob ffermwr, mawr a bach. Ei bwrpas gwreiddiol oedd helpu cynnal yr eglwys a'r esgobaeth leol, ac reodd yn weithredol hyd yn oed yn ystod Oes y Tywysogion, a'r egwyddor (yn seiliedig ar yr Ysgrythur) oedd i bobl roi degfed ran o'u cynnyrch i Dduw. Gyda dyladwad y Normaniaid ar ôl 1066, daeth yr Eglwys yn fwyfwy awyddus i droi rhodion ar ffurf nwyddau'n arian parod, er mwyn arbed gorfod casglu ynghyd ac wedyn gwerthu anifeiliaid a chnydau amrywiol - er na phylodd yr arfer tan yn hwyr: mae Stryd Ysgubor y Degwm yng Nghaernarfon yn ein hatgoffa o'r ysguboriau eang a godwyd i gadw cynnyrch o'r fath hyd at yr 1840au mewn llawer i le.
Mae cofnod wedi goroesi o'r arian degwm a gasglwyd yn Uwchgwyrfai tua chanol y 14g. Erbyn hynny, gan fod offeiriaid Eglwys Sant Beuno, Clynnog Fawr wedi dod yn gyfrifol am freintiau eglwysi Uwchgwyrfai i gyd, roedd holl degwm (heblaw am y degwm a gesglid, mae'n debyg, ar diroedd Abaty Aberconwy yn y cwmwd) yn cael ei hel, mae'n ymddangos, ar ffurf arian. Isod ceir cyfieithiad o'i werth, ac i bwy ymysg offeiriaid Cynnog yr oedd yn daladwy. Cyfansymiau yw'r rhain; mae'n biti nad yw'r gwerth a ddeuai o bob fferm wedi ei nodi! Nodwyd y manylion fesul deoniaeth, sef yn yr achos hwn, Arfon.
Y Degwm yn y 14eg ganrif
Dyma asesiad Deoniaeth Arfon gan Ddeon a rheithwyr eraill y Ddeoniaeth hon.
Cyfran Meistr Anian Ruffy yn deillio o Eglwys Clynnog Fawr 9½ marc 12s. 8c. Cyfrannau sy’n dod i William a rhoddion hefyd 8 marc 10s. 8c. Cyfran Caplan Mathew yn deillio o’r uchod 7½ marc 10s. 0c. Cyfran Caplan Ioan yn deillio o’r uchod 7½ marc 10s. 0c. Cyfran Caplan Dafydd yn deillio o’r uchod 7 marc 9s. 4c. Eglwys Llanbeblig 8½ marc 11s. 4c. Cyfanswm: £32 Y degwm yn deillio o hyn: 64s
Mae'r swm cyntaf yn manylion yn cyfeirio at werth yr holl gynnyrch yn ol prisiad neu asesiad, a'r ail, degymiad neu ddegfed ran o hynny. Roedd "marc" gyfwerth â 13s. 4c.