Robert Vaughan Wynn, 8fed Arglwydd Newborough

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 08:49, 20 Mai 2020 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Robert Vaughan Wynn yw'r 8fed Arglwydd Newborough ac fe gafodd y teitl ar farwolaeth ei dad, y 7fed Arglwydd ym 1998. Cafodd ei fagu ar ystadau Glynllifon a Rhug, cyn treulio dwy flynedd yn Awstralia "i fagu profiad". Cyn dod adref i helpu ei dad efo rheoli'r ystad ym 1994, bu'n gyfalafwr, yn ffarmio ar ei fferm ei hun yn Swydd Amwythig, (Peplow Hall), ac am bum mlynedd yn rhedeg gwasanaeth diogelu pysgotfeydd Sierra Leone. Mae'n byw ar brif ystad y teulu bellach, sef Ystad y Rhug ger Corwen, er bod ganddo dir sylweddol a oedd gynt yn rhan o ystad wreiddiol y teulu, sef Ystad Glynllifon.[1]

Cysylltiad pellach rhwng Ystad y Rhug a Uwchgwyrfai yw'r ffaith fod rheolwr fferm helaeth, organig ac arloesol y Rhug yw Gareth Jones, sy'n hanu o Ffrwd Cae Du.

Yr etifedd i'w deitl yw ei gefnder, Anthony Charles Vaughan Wynn (g.1949).

Cyfeiriadau

  1. Daily Post, 18.11.2014