Crwydro Arfon
Mae Crwydro Arfon yn llyfr gan Alun Llywelyn-Williams yng nghyfres "Crwydro" a gyhoeddwyd gan gwmni Llyfrau'r Dryw yn ystod y 1950au a 1960au, gydag un neu fwy o gyfrolau'n ymwneud â phob sir. Cyhoeddwyd Crwydro Arfon ym 1959, ac mae'n delio â dwyrain Sir Gaernarfon; cyhoeddwyd cyfrol ar wahân, sef ''Crwydro Llŷn ac Eifionydd'' gan Gruffudd Parry ym 1960. Er bod pennod gyfan yn llyfr Crwydro Arfon am Uwchgwyrfai, nid ydyw'n ymdrin â phlwyf Llanaelhaearn na phentref Trefor, sydd yn cael sylw gan Gruffudd Parry.[1]
Dyma'r llyfrau cyntaf yn yr oes fodern i roi sylw gweddol fanwl i agweddau ar hanes, llên a daearyddiaeth rannau o'r wlad, ac er nad yw'r ddwy gyfrol am Sir Gaernarfon mor fanwl â'r cyfrolau manwl a gwych gan Ffransis Payne ar Sir Faesyfed, er enghraifft (ag ystyried cyfoeth y deunydd posibl) maent yn well o dipyn na chyfrolau cyntaf y gyfres a ysgrifenwyd gan T.I. Ellis. Ysgrifennir y llyfrau yn null teithlyfr hen ffasiwn, yn disgrifio taith (dychmygol mae'n debyg) o gwmpas ardal, a hynny mewn modd darllenadwy a diddorol, heb ymgais i fod yn or-gynhwysol.
Digon hawdd yw dod o hyd i gopïau o'r gyfres, a hynny am bris rhesymol mewn sioau ail-law, er nad ydynt wedi cael eu hailargraffu ers y 1970au. Wedi dyddiau'r gyufres crwydro daeth Cyfres Broydd Cymru o'r 1990au ymlaen, oedd yn tueddu cael eu cyhoeddi i gyfateb i fro'r Eisteddfod Genedlaethol y flwyddyn honno. Ceir mwy o ffeithiau yn y rhain, er efallai eu bod yn fwy pytiog - i weddu ag arferion darllen yr oes o bosib. Fe'u cyhoeddwyd gan Wasg Carreg Gwalch mewn cloddiau meddal.Gwall cyfeirio: Tag <ref>
annilys; rhaid i dagiau 'ref' heb enw iddynt gynnwys testun
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma
Cyfeiriadau
- ↑ Alun Llywelyn-Williams, Crwydro Arfon, (Llandybïe, 1959); Gruffudd Parry, Crwydro Llŷn ac Eifionydd, (Llandybïe, 1960)