Parc Cenedlaethol Eryri
Fe ffurfiwyd Parc Cenedlaethol Eryri ym 1951 ac hwn yw’r parc cenedlaethol mwyaf yng Nghymru, yn cwmpasu 823 milltir sgwâr neu 2,176Km sgwâr. Mae Parc Cenedlaethol Eryri y pedwerydd mwyaf ym Mhrydain ar ôl y Cairngorms, Dyffrynnoedd Swydd Efrog ac Ardal y Llynoedd. Ym 1951 pan ffurfiwyd y Parc, roedd y diwydiant llechi'n dal i frwydro ymlaen er gwaethaf y cau a'r ailgyfeirio a fu yn ystod yr Ail Ryfel Byd, ac ar ôl colli llawer o'r gweithwyr yn y Rhyfel. Am y rheswm hwnnw, mae'n debyg, er bod y Parc yn uned o lethrau mwyaf gogleddol Eryri ei hun hyd at ddyffryn Dyfi yn y de, fe adawyd yr ardaloedd chwarelyddol mwyaf y tu allan i ffiniau'r Parc. Dyna'r rheswm, mae'n debyg pam fod cyn lleied o Uwchgwyrfai yn y Parc - sef dim ond Dyffryn Gwyrfai o bont ... ac i lawr rhan uchaf Dyffryn Nantlle o Rhyd-dduben uchaf pentref Nantlle ei hun ac o'r fan honno, yn cynnwys Crib Nantlle mewn llinell syth ar draws Cors y llyn at Gwmbran, ger Pant-glas. O'r fan honno, mae'r ffin yn dilyn y ffordd gefn nes gyrraedd Tafarn-faig ar y ffin ag Eifionydd.
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma